Bydd 24 o swyddi'n cael eu creu mewn uned ddiwydiannol newydd fel rhan o gynllun Porthladd Rhydd Ynys Môn.
Bydd gwaith yn dechrau y mis hwn ar gyfleuster gwerth £3 miliwn ym Mharc Diwydiannol Tregarnedd, ar gyrion Llangefni.
Bydd yr uned yn cael ei hadeiladu ar un o chwe safle a sefydlwyd ar yr ynys fel rhan o gynllun y Porthladd Rhydd, sydd â'r nod o ddenu swyddi a chyfleoedd cyflogaeth drwy gynnig gostyngiadau treth a thollau i fusnesau, yn ogystal â chyllid ar gyfer prosiectau mawr.
Bydd yr uned newydd 875m², sydd wedi'i lleoli ar blot 2 yn Tregarnedd, yn cael ei dylunio at ddibenion diwydiannol, storio a dosbarthu.
Dyweddod Gary Pritchard, arweinydd Cyngor Môn: "Dyma fuddsoddiad sylweddol arall yn economi Ynys Môn. Un o amcanion allweddol cynllun y cyngor yw hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu economi'r ynys ac mae'r prosiect hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu'r uchelgais honno."
"Drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau busnes modern, rydym yn helpu busnesau i dyfu, yn denu buddsoddiad ac yn cefnogi swyddi i bobl leol."
"Mae ei leoliad o fewn parth y Porthladd Rhydd yn cryfhau ymhellach bod Ynys Môn yn lle deniadol i fuddsoddi ynddo ac i redeg busnes."

Yn ôl y cyngor, daw'r datblygiad yn dilyn "galw sylweddol" am ardaloedd cyflogaeth modern ym Môn - gyda unedau eraill yn Nhregarnedd wedi’u meddiannu, sy’n dangos yr angen parhaus ar gyfer mwy o adeiladau diwydiannol o safon uchel ar gyfer busnesau sy'n tyfu.
Mae'r uned newydd yn cael ei hariannu drwy Bargen Twf Gogledd Cymru, a disgwylir i'r gwaith adeiladu, sy'n cael ei wneud gan y contractwyr lleol OBR, gael ei gwblhau erbyn diwedd 2027.
Dwyeddod y Cynghorydd Mark Pritchard, cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru: "Rydw i'n falch o weld cyllid Bargen Twf Gogledd Cymru yn parhau i gefnogi buddsoddiad a thwf economaidd ar gyfer Ynys Môn a gogledd Cymru."
"Mae'r uned fusnes newydd yn adeiladu ar lwyddiant Parc Diwydiannol Tregarnedd ac yn cynrychioli cam pwysig o ran creu'r lle, cyfleoedd ac amodau sydd eu hangen ar fusnesau i allu tyfu a ffynnu."
Mae Cyngor Môn yn annog cwmnïau sydd â diddordeb mewn cymryd lle yn yr uned newydd i ddod ymlaen cyn bo hir.
Ychwanegodd Christian Branch, pennaeth datblygu economiadd Cyngor Môn: "Mae'r galw'n parhau ar gyfer lleoliadau diwydiannol modern a masnachol ar draws Ynys Môn a bydd y datblygiad hwn yn darparu lleoliad cyflogaeth o ansawdd uchel a fydd yn cefnogi twf busnes ac yn denu buddsoddiad newydd i'r ynys."
"Rydym yn annog busnesau sydd â diddordeb yn y cyfle hwn i gofrestru eu diddordeb yn gynnar."


Ap OgiOgi yn ennill gwobr Menter Iaith
Mwy o arian i adnewyddu'r Amgueddfa Lechi
Carcharu dynes am boeri ar swyddog heddlu
Lansio ap newydd i ofalwyr di-dâl
Swyddogion traffig i gario diffibrilwyr