Bydd yr Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn derbyn £2.4 miliwn mewn cyllid wrth i'r gwaith ailddatblygu barhau.
Mae'r amgueddfa wedi bod ar gau ers mis Tachwedd 2024 tra bod gwaith yn mynd rhagddo i adnewyddu'r amgueddfa – yng ngweithdai rhestredig Gradd 1 Gilfach Ddu – er mwyn caniatáu i'r safle gael ei ailddatblygu i wella'r safle i ymwelwyr a sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Ond mae ailagor yr amgueddfa, a oedd wedi'i drefnu ar gyfer eleni, wedi'i ohirio tan 2028 oherwydd y costau cynyddol ar gyfer gwaith atgyweirio.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Heledd Fychan, a ymwelodd â'r safle ddydd Gwener: "Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn adrodd hanes diwydiant a helpodd i lunio Cymru, ei chymunedau a'i hiaith."
"A minnau wedi ymweld a'r safle yn rheolaidd ers yn blentyn, mae'n ysbrydoledig gweld y sgiliau a'r gofal sy'n cael eu buddsoddi i gadwraeth yr adeiladau hanesyddol yma."
"Bydd y £2.4m ychwanegol o gyllid cyfalaf yn cefnogi'r ailddatblygu ar gam pwysig, gan greu amgueddfa fwy hygyrch, gyda chyfleusterau newydd a mwy modern. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau y gall yr amgueddfa groesawu ymwelwyr, ysgolion a phobl leol am genedlaethau i ddod."
"Dwi'n edrych ymlaen at weld yr amgueddfa yn ailagor a chroesawu pobl o bob rhan o Gymru a ledled y byd i ddarganfod ac ymgolli yn stori unigryw ein treftadaeth lechi."

Yn ôl Amgueddfa Cymru, mae gwaith adnewyddu wedi cyrraedd "cam tyngedfennol", er gwaethaf gohirio'r ailagor.
Mae gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau ar y ffenestri a'r drysau gwreiddiol yn y gweithdy, ac mae hen adeiladau'r siop a'r caffi wedi cael eu dymchwel gan eu bod bron yn 30 mlwydd oed a "ddim bellach yn addas i'r diben".
Mae sylfeini bellach wedi'u gosod ar gyfer yr adeilad newydd modern.
Meddai Helen Goddard, cyfarwyddwr prosiect: "Rydyn ni'n falch iawn o sut mae'r gwaith yn mynd rhagddo. Bydd heriau bob amser gydag unrhyw ailddatblygiad mawr ar safle hanesyddol fel hyn."
"Ond mae'r cadwraeth a'r crefftwaith sy'n mynd i mewn i'r prosiect hwn yn dyst i waith caled y tîm. Ni allwn aros i rannu mwy o ddatblygiadau dros y misoedd nesaf."
Daeth yr adeilad Gilfach Ddu yn gartref i Amgueddfa Lechi Cymru yn 1972, pan agorodd i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn dilyn cau chwarel Dinorwig yn 1969.
Yn 2021, daeth yr amgueddfa yn rhan allweddol o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy'n cydnabod y dirwedd lechi yng Ngogledd-orllewin Cymru.
Ychwanegodd Jane Richardson, prif weithredwr Amgeuddfa Cymru: "Mae'r cyllid hwn yn hwb mawr ar gam tyngedfennol."
"Bob tro dwi'n ymweld, dwi'n cael fy nharo gan y sgil, y gofal a'r ymroddiad sy'n cael eu buddsoddi mewn gwarchod yr adeiladau hanesyddol rhyfeddol hyn. Ar yr un pryd, rydyn ni'n creu mannau newydd a fydd yn gwneud yr amgueddfa yn fwy hygyrch, diddorol a phleserus i ymwelwyr."
Mae ailddatblygu'r amgueddfa hefyd yn derbyn cyllid gan Gyngor Gwynedd (drwy Lywodraeth y DU) drwy broseict Llewyrch o'r Llechi, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Wolfson a chefnogwyr eraill.


Ap OgiOgi yn ennill gwobr Menter Iaith
Carcharu dynes am boeri ar swyddog heddlu
Lansio ap newydd i ofalwyr di-dâl
Swyddogion traffig i gario diffibrilwyr
Porthladd Rhydd: gwaith i ddechrau ar uned newydd