Mae dyn o Gaergybi wedi cael ei garcharu ar ôl ymosod yn gorfforol ar ddynes a’i rheoli.
Cafodd Joshua Wren, 33 oed, yn euog o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol rhwng mis Awst 2025 a mis Chwefror 2026.
Mi ymosododd Wren yn gorfforol ar ei ddioddefwr, gan ei tharo hi a'i dyrnu hi'n ei phen. Mi fygythiodd y ddynes a'i rheoli hi, gan ei gadael hi'n ofni am ei diogelwch ei hun.
Mi gyfaddefodd hefyd feddu ar gyffur Dosbarth B.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher, cafodd Wren ei garcharu am dair blynedd a thri mis.
Mi dderbyniodd hefyd orchymyn atal sy’n para saith mlynedd, er mwyn gwarchod y dioddefwr.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Amie o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae gan Wren hanes blaenorol o drais, ac mae o unwaith eto wedi dangos ei fod yn berygl i ferched."
"Dwi’n canmol y dioddefwr am ei dewrder hi wrth ddod atom ni. Dwi’n gobeithio fydd y ddedfryd hon yn ei galluogi hi symud ymlaen efo’i bywyd hi."
"’Da ni’n cymryd pob math o drais yn erbyn merched a genethod o ddifrif ac yn parhau dod â throseddwyr o flaen eu gwell."
"Dwi’n annog unrhyw un sy’n profi cam-drin, neu’n pryderu am les rhywun arall, i gysylltu efo ni. Mi wnawn ni wrando a chymryd camau."


Cwmni sgaffaldio yn euog o waith heb drwydded
Hen ysgol i gael 'bywyd newydd' fel hwb gymunedol
Rhybudd cau ar gyfer tŷ ym Mangor
Dyn yn euog o badellu am aur yn anghyfreithlon
Porthmadog: carchar i leidr ar ôl dwyn copr