Hen ysgol i gael 'bywyd newydd' fel hwb gymunedol

Thursday, 17 September 2026 11:55

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae hen ysgol gynradd ar fin cael ei thrawsnewid yn ganolfan elusennol a chymunedol.

Cafodd Ysgol Cwm-y-Glo ei gau ym mis Awst 2019, ar ôl colli ei ddisgybl olaf.

Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo argymheiliad i roi prydles hir dymor ar gyfer yr adeilad i Fenter Fachwen

Mae Menter Fachwen, sy'n arbenigo mewn darparu cyfleoedd addysg a hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu, yn gobeithio datblygu'r safle a chreu cyfleusterau cymunedol newydd mewn ymateb i anghenion a dyheadau newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, cadeirydd yr elusen: "Mae cymryd Ysgol Cwm y Glo ymlaen yn gyfle cyffrous i adeiladu ar ein gwaith a datblygu cyfleoedd dydd a chyfleoedd gwaith newydd i bobl ag anableddau dysgu."

"Rydym hefyd yn cydnabod pa mor bwysig mae’r ysgol wedi bod i gymuned Cwm y Glo dros genedlaethau. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i roi pwrpas newydd i’r adeilad, ac rydym am sicrhau bod ei ddyfodol yn parhau i fod yn gadarn o fewn y gymuned leol."

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r bobl rydym yn eu cefnogi, y Cyngor a’r gymuned leol wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer Ysgol Cwm y Glo."

"Hoffem ddiolch i Gyngor Gwynedd am gefnogi datblygiad yr elusen ac am gydnabod y potensial sydd gan Ysgol Cwm y Glo i barhau i wneud cyfraniad positif i rheini sy’n derbyn cefnogaeth gan yr elusen a’r ardal."

Mae'r cynlluniau ar gyfer yr hen ysgol yn cynnwys neuadd gymunedol a siop goffi newydd, hwb economi gylchol, ystafell sensori a therapi, gofod hanes lleol ac ardd gymunedol sy'n cynnwys cyfleusterau chwarae hygyrch.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, bydd hefyd yn darparu lle i grwpiau a gwasanaethau lleol, yn ogystal â mwy o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu galwedigaethol i oedolion ag anableddau dysgu.

Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, aelod y cabinet dros eiddo: "Mae cynlluniau Menter Fachwen i’r hen ysgol yn cynnig cyfle gwych i greu buddion hirdymor i’r gymuned leol, a dw i’n falch iawn bod y cyngor yn gallu chwarae rhan drwy gynnig prydles hir dymor iddynt am swm enwol."

"Bydd y datblygiad yn ehangu gwaith gwerthfawr Menter Fachwen dros flynyddoedd lawer gydag oedolion ag anableddau dysgu. Bydd yn creu cyfleoedd cyffrous i bobl ac yn darparu gofod i’r gymuned ddod at ei gilydd."

"Bydd y prosiect yn dod â bywyd newydd i adeilad yr hen ysgol yng nghanol Cwm-y-glo fel ased i’r gymuned gyfan."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Your Weekend Starts Early

    7:00pm - 9:00pm

    Brynski & Kalso are in the mix to kick-start your weekend a little earlier!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'