Mae cwmni sgaffaldio wedi cael dirwy am wneud gwaith yn Llangefni heb drwydded.
Cafwyd M J Scaffolding yn euog o fethu â chydymffurfio â Deddf Priffyrdd 1980 ar ôl codi sgaffald ar y Stryd Fawr ym mis Ionawr heb drwydded.
Dyma’r pedwerydd cwmni sgaffaldio i Gyngor Ynys Môn ei erlyn am droseddau o’r fath yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i gwmnïau sgaffaldio sicrhau bod trwydded ddilys mewn grym bob amser pan fo sgaffaldiau’n cael eu codi ar y briffordd.
Nid oedd y cwmni, sydd wedi'i leoli yng Nghlynnog Fawr, yn bresennol yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mercher, ond cafwyd hi'n euog yn eu habsenoldeb.
Derbyniodd y cwmni ddirwy o £1,000 am y drosedd, yn unol â dymuniad yr awdurdod lleol, a £1,466.28 mewn costau i'r cyngor sir.
Dyweddod Huw Percy, pennaeth priffyrdd Cyngor Môn: "Mae dyletswydd ar gwmnïau sgaffaldio i sicrhau bod y strwythurau y maent yn eu codi yn ddiogel, yn gyfreithlon ac nad ydynt yn peryglu’r cyhoedd."
"Gall gosod sgaffaldiau ar y briffordd heb drwydded ddilys hefyd olygu bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus y cwmni sgaffaldio yn annilys. Gallai hyn arwain at ganlyniadau difrifol i’r cwmni pe bai digwyddiad yn digwydd."
"Ni fydd Cyngor Sir Ynys Môn yn goddef strwythurau sgaffaldio anghyfreithlon na pheryglus ar ei rwydwaith priffyrdd."


Caergybi: carcharu dyn am ymddygiad rheolaethol
Hen ysgol i gael 'bywyd newydd' fel hwb gymunedol
Rhybudd cau ar gyfer tŷ ym Mangor
Dyn yn euog o badellu am aur yn anghyfreithlon
Porthmadog: carchar i leidr ar ôl dwyn copr