Porthmadog: carchar i leidr ar ôl dwyn copr

Friday, 11 September 2026 19:39

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae lleidr wedi cael ei garcharu am ddwyn cebl copr gwerth dros £4,000 ym Mhorthmadog.

Mi dresmasodd Thomas Keenan, ynghyd â dau arall, yn y ganolfan gyfnewid ffôn BT ar y Stryd Fawr ym mis Mai 2023 a dwyn chwe drym o gebl copr.

Plediodd y dyn 24 oed yn euog i fwrgleriaeth.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, mi gafodd ei garcharu am 13 mis.

Dywedodd Cwnstabl Stephen Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Dydy lladrad copr ddim yn drosedd heb ddioddefwr, ac mae’n cael effeithiau go iawn ar fusnesau ac aelodau’r gymuned."

"’Da ni’n cymryd adroddiadau o fyrgleriaeth o ddifrif, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • The Country Gospel Show

    8:00am - 9:00am

    Join John Morrison on MônFM as he starts your Sunday with an hour of Country Gospel

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'