Mae pont droed ym Mhwllheli wedi ei chau yn dilyn tân bwriadol.
Cafodd rhan sylweddol o bompren rhwng Lôn Cob Bach a Phont Solomon ym Mhwllheli ei losgi rhwng 8yh a 10yh nos Fercher diwethaf.
Mae'r tân wedi costio rhwng £5,000 a £10,000 o ddifrod ac mae'r heddlu wedi apelio ar dystion i ddod ymlaen.
Mae'r Cyngor Gwynedd wedi cau y llwybr dros dro oherwydd pryderon am ddiogelwch y strwythur.
Meddai Gerwyn Jones, pennaeth cynorthwyol adran amgylchedd y cyngor: "Mae’r bont droed yma ym Mhwllheli yn hynod boblogaidd gyda thrigolion lleol ac yn cynnig cyfle i fwynhau amgylchedd a byd natur tafliad carreg o ganol y dref."
"Er fod yna fandaliaeth wedi ei brofi i’r bont dros y blynyddoedd, yn dilyn gwaith atgyweirio diweddar, mae yna ddefnydd da wedi ei weld ohoni."
"Mae’n bryderus iawn felly fod y strwythur wedi gorfod ei gau dros-dro ar ôl y tân yma, ac mae’n loes calon gweld y difrod sydd wedi ei achosi."

"Yn ogystal â’r anhwylustod fod rhaid cau y bont dros dro, mi fydd yna gostau sylweddol i’r Cyngor er mwyn gallu atgyweirio’r strwythur – mewn cyfnod lle mae cyllid yn brin, mae hyn yn gost di-angen. Mae’n siomedig bod ymddygiad lleiafrif bach iawn yn difetha mwynhad pobl o’r bompren."
"Rydym yn erfyn ar y rhai sy’n gyfrifol i barchu eiddo cyhoeddus ac i feddwl am effaith eu hymddygiad ar y gymuned leol, ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y mater i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru."
Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "'Da ni'n apelio ar i unrhyw un a oedd yn yr ardal yn ystod yr amser hwnnw a welodd unrhyw beth amheus i gysylltu â'r heddlu."
"Ar ben hyn, 'da ni'n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal gyda thystiolaeth ar gamera cerbyd i gysylltu â'n swyddogion."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y llosgi bwriadol, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu defnyddiwch y sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 24000905845.


Tlws Eisteddfod i 'Mistar Urdd Ynys Môn'
Enwau lleoedd cudd yn dod i'r amlwg
Pum dyn yn osgoi carchar am ddwyn gwartheg
Porthladd Rhydd Môn 'yn symud i'r cam cyflawni'
Gwasanaethau plant yn wynebu 'pwysau cynyddol' - addrodiad