Cau Pont Menai dros dro

Saturday, 4 October 2025 14:22

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae Pont Menai wedi cau i bob cerbyd dros dro oherwydd atgyweiriadau brys.

Mae’r penderfyniad wneud yng ngoleuni ymchwiliadau diweddar a gynhaliwyd fel rhan o waith cam dau sydd wedi gweld bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau o dan y bont.

Fe gafodd cyfyngiadau pwysau ei gyflwyno brynhawn dydd Gwener, gyda gwaharddiad ar gerbydau mwy.

Ond ond yn ôl Llywodraeth Cymru, mae adborth gan UK Highways A55 yngylch yr heriau o ran gorfodi wedi arwain at y penderfyniad diweddara i gau'r bont dros dro o 2yp ymlaen "er gwaethaf holl ymdrechion" i gadw Pont Menai ar agor i geir a beiciau modur.

Mae trefniadau ar waith ar gyfer cerbydau gwasanaethau brys rhag ofn y bydd gwyntoedd cryfion yn effeithio ar Bont Britannia.

Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi ymddiheuro i drigolion lleol "am y tarfu parhaus rydych chi'n ei wynebu wrth i'r gwaith o adfer y bont barhau i fynd rhagddo."

Dyweddod Ken Skates: "Rydym wedi ystyried pob opsiwn i gadw’r bont ar agor yn ddiogel ond yn dilyn yr adborth diweddaraf hwn ar orfodaeth gan UK Highways A55, sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r bont, rydym wedi gorfod ei chau'n llwyr."

"Hoffwn ddiolch i'r heddlu am eu cefnogaeth dros y 24 awr ddiwethaf."

"Rwy’n teimlo’n rhwystredig iawn gyda’r datblygiad diweddaraf hwn, a gallaf eich sicrhau bod fy swyddogion yn pwyso ar UK Highways A55 i ddatrys y mater hwn ar frys. Fodd bynnag, er gwaethaf ein rhwystredigaeth rhaid i ni wrando ar gyngor peirianwyr er mwyn sicrhau diogelwch pawb."

"Bydd y bont yn parhau ar gau nes bod ymchwiliadau pellach wedi’u cwblhau yn y dyddiau nesaf a bod UK Highways A55 wedi rhoi strategaeth orfodi ddiogel i ni i ailagor y bont a symud ymlaen â gwaith cam dau."

"Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac rwy’n diolch i chi unwaith eto am eich amynedd."

Mae arweinydd Cyngor Ynys Môn wedi galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth Cymru.

Dwyeddod y Cynghorydd Gary Pritchard: "Er ein bod yn deall y rhesymeg dros gyfyngu’r traffic dros Bont Menai, mae’n bryder i ni fel trigolion na chafodd y gwendid yma ei amlygu yn ystod yr archwiliadau blaenorol."

"Mae’r cyfyngiadau yn amlygu unwaith yn rhagor y pryder rydym ni fel gwleidyddion Ynys Môn wedi ei ddatgan dro ar ôl tro am ddiffyg gwytnwch ein cysylltiadau gyda’r tir mawr."

"Rydym wedi gwneud galwadau cyson ar Lywodraeth Cymru i ystyried y gwytnwch a’r effaith mae yn ei gael ar fywydau trigolion yr Ynys a byddaf yn galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth Cymru."

Mae AS Ynys Môn wedi disgrifio y cyhoeddiad diweddaraf fel ''newyddion rhwystredig iawn''.

Dwyeddod Rhun ap Iorwerth: "Er bod rhaid i ddiogelwch fod yn flaenoriaeth, mae'n annerbyniol bod y bont wedi'i chau eto heb fawr o rybudd - yn union fel yr oedd bron i dair blynedd yn ôl."

"Mae pobl Ynys Môn wedi bod yn aros blynyddoedd i'r gwaith yma gael ei gwblhau, ac mae eu hamynedd yn rhedeg allan."

"Rwyf trafodaethau agos â Chyngor Sir Ynys Môn a byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru am atebion brys ynghylch pam na chafodd y problemau diweddaraf eu darganfod yn gynt, sut y bydd hyn yn effeithio ar amserlen y prosiect, a pha fesurau fydd yn cael eu rhoi yn eu lle i liniaru’r effaith anochel caiff y cyhoeddiad yma."

Ychwanegodd Llinos Medi, Aelod Seneddol Ynys Môn: "Mae hyn yn newyddion rhwystredig i'r ynys gyfan."

"Tair blynedd yn ôl, dywedwyd wrthym am y pryderon ynghylch diogelwch y bont. Mae nhw wedi cael tair mlynedd i ddatrys y sefyllfa ac yn awr mae gennym ni arolwg arall sy'n codi mater diogelwch arall."

"Rwyf wedi dweud dro ar ôl tro mae’r pontydd yn hanfodol i’n economi, y gwasanaethau brys a'n bywydau dyddiol ar yr ynys. Byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynnu amserlen i gael Pont Menai ar agor eto."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    11:00am - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'