Mae Pont Menai ar agor i geir gyda therfyn pwysau newydd o 3 tunnell o hyn ymlaen ar argymhelliad peirianwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.
Ni fydd cerbydau mwy yn cael croesi ac bydd yr heddlu wrth y bont i sicrhau fod pobl yn cydymffurfio.
Mae'r penderfyniad yn dilyn gwaith ymchwilio o dan y bont a gynhaliwyd fel rhan o ail gam y gwaith atgyweirio. Dangosodd yr ymchwiliad fod angen ailosod rhai o'r bolltau ar drawstiau o dan y bont.
Mae peirianwyr wedi argymell bod y bont yn ddiogel i draffig ei defnyddio gyda'r terfyn pwysau newydd.
Mae'r argymhelliad wedi dod gan beirianwyr sy'n gweithio i Briffyrdd y DU A55 sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont.
Dywedodd ysgrifennydd trafnidiaeth, Ken Skates: "Y cyngor brys gan beirianwyr strwythurol yw y dylai Pont Menai gael terfyn pwysau newydd."
"Nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol, ond mae'n rhaid i ni wrando ar gyngor peirianwyr."
"Rwy'n gwybod y bydd hyn yn achosi pryder arbennig heno gyda dyfodiad Storm Amy a'r effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar Bont Britannia. Mae trefniadau ar waith i gerbydau brys groesi pe bai'r Britannia ar gau oherwydd gwyntoedd cryfion."
"Byddwn yn parhau i bwyso ar Briffyrdd y DU A55 am ddatrysiad cynnar i'r sefyllfa hon sy'n peri pryder i mi a llawer o bobl eraill."
Bydd y terfyn pwysau yn aros mewn grym nes bod ymchwiliadau pellach wedi digwydd, yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd diweddariadau pellach dros y dyddiau nesaf gan gynnwys diweddariadau ar yr effaith ar y rhaglen waith ar y bont yn y tymor hwy.
Mewn ymateb, dwyeddod Rhun ap Iorwerth, yr AS Plaid Cymru dros Ynys Môn: "Bydd newyddion am gyfyngiadau pellach dros Bont y Borth yn achosi rhwystredigaeth yn lleol, wrth reswm."
"Er bod yn rhaid i ddiogelwch barhau i fod yn flaenoriaeth, rydym bellach bron i dair blynedd i mewn i’r gwaith atgyweirio ac mae problemau newydd yn dal i gael eu darganfod, a allai achosi oedi pellach."
"Mae trigolion Ynys Môn yn haeddu eglurder ynghylch sut y bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn effeithio ar amserlen y prosiect, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru’r effeithiau negyddol."
"Byddaf yn ysgrifennu at yr ysgrifennydd cabinet dros drafnidiaeth ar frys a byddaf yn rhannu unrhyw ymateb gyda’m hetholwyr cyn gynted â phosib."
Dwyeddod arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard: "Er ein bod yn deall y rhesymeg dros gyfyngu’r traffic dros Bont Menai, mae’n bryder i ni fel trigolion na chafodd y gwendid yma ei amlygu yn ystod yr archwiliadau blaenorol."
"Mae’r cyfyngiadau yn amlygu unwaith yn rhagor y pryder rydym ni fel gwleidyddion Ynys Môn wedi ei ddatgan dro ar ôl tro am ddiffyg gwytnwch ein cysylltiadau gyda’r tir mawr."


Cyngor yn cefnogi'r ymgyrch Nid Fy Nghywilydd
'Newidiadau sylweddol' yn Ysgol Friars - arolygwyr
Carcharu dyn am cyfres o droseddau ym Mangor
Streicwyr Friction yn serennu mewn drama newydd
Atafaelu tybaco anghyfreithlon o siopau Môn