Cytundeb newydd ar gyfer adweithydd Wylfa

Wednesday, 25 March 2026 00:05

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae datblygwyr yr adweithydd niwclear bach newydd yn Wylfa wedi llofnodi cytundeb allweddol gyda Chyngor Ynys Môn.

Bydd yr adweithydd cyntaf o'i fath (SMR) yn y DU wedi'i leoli ar safle'r hen orsaf bŵer niwclear, sy'n cael ei ddadgomisiynu.

Mae cytundeb cydweithio rhwng Cyngor Môn a Great British Energy – Nuclear yn canolbwyntio ar sicrhau buddion lleol a darpariaeth prosiect cyfrifol.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar yr unedau cyntaf eleni - gyda Wylfa wedi'i chlustnodi i ddarparu capasiti ar gyfer hyd at wyth adweithydd bach, gan gynhyrchu pŵer i'r Grid Cenedlaethol o ganol y 2030au.

Dyweddod Dylan J Williams, prif weithredwr y cyngor: "Fel awdurdod sydd â phrofiad helaeth o brosiectau ynni mawr, mae gennym arbenigedd technegol sylweddol, gwybodaeth leol a dealltwriaeth fanwl o gymunedau'r ynys."

"Mae'r profiad hwn yn ein rhoi mewn sefyllfa gryf i allu dylanwadu ar GBE-N a'i gontractwyr mewn ffordd fydd yn sicrhau'r buddion lleol a rhanbarthol gorau, yn sicrhau bod y prosiect yn cael ei ddarparu mewn modd cyfrifol gan amddiffyn nodweddion unigryw'r Ynys, ei diwylliant a'r iaith Gymraeg."

"Mae'r cyfleoedd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen SMR arfaethedig yn sylweddol."

"Rydym yn benderfynol o sicrhau bod Ynys Môn yn y sefyllfa orau posibl i allu manteisio ar y cyfleoedd hyn – boed hynny o ran swyddi newydd, llwybrau sgiliau, datblygiad y gadwyn gyflenwi leol, gwell isadeiledd neu fuddsoddiadau cymunedol hirdymor."

Great British Energy – Nuclear (GBE-N) yw corff cyflawni llywodraeth y DU sydd wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad a gweithrediad technolegau niwclear newydd.

Yn ôl y cyngor, mae'r cytundeb yn adlewyrchu ei ymrwymiad hirdymor tuag at berthnasau cydweithio, adeiladol â phartneriaid allweddol sy'n ymwneud â datblygiadau strategol yn lleol.

Ond mae'r ddwy ochr hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cyflawni'r prosiect yn ddiogel - a bydd y cydweithio ffurfiol yn galluogi'r cyngor i weithio mewn modd rhagweithiol â GBE-N er mwyn adnabod, osgoi a lliniaru effeithiau andwyol posibl gan sicrhau bod y datblygiad yn cael ei ymgymryd af ef mewn modd cyfrifol, cynaliadwy sy'n sensitif i anghenion lleol.

Ychwanegodd Kenny Douglas, cyfarwyddwr DevCo gan GBE-N: "Yn y misoedd ers y cyhoeddwyd Wylfa fel ein prif safle datblygu rydw i wedi gweld â'm llygaid fy hun yr angerdd sy'n bodoli ar gyfer sicrhau'r buddion gorau ar gyfer pobl Môn gan ein prosiect."

"Ein cyfrifoldeb ni yw cyflawni'r potensial hwnnw ac mae GBE-N yn edrych ymlaen at gydweithio â Chyngor Sir Ynys Môn dros y blynyddoedd i ddod."

Dywed y cyngor y bydd y ffocws yn parhau ar drigolion a chymunedau yng Ngogledd Ynys Môn drwy hyrwyddo pwysigrwydd hanfodol yr egwyddor agosrwydd gyda GBE-N a'i gontractwyr.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Mae'r cytundeb yma'n ffurfioli ein hymrwymiad i gydweithio'n agos â GBE-N wrth iddynt ymchwilio i'r ddarpariaeth o SMRs yn Wylfa."

"Mae ein blaenoriaeth yn glir – sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer pobl Ynys Môn, tra'n sicrhau bod unrhyw risgiau'n cael eu rheoli'n iawn a bod llais yr Ynys yn cael ei chlywed drwy gydol y broses ddatblygu."

"Edrychwn ymlaen at barhau â'r bartneriaeth adeiladol hon ac at sicrhau bod y prosiect yn dod â buddion hirdymor, cadarnhaol i Ynys Môn a'i chymunedau."

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd GBE-N ei fod wedi penodi ymgynghorwyr arbenigol WSP a Mott MacDnald i ddarparu gwasanaethau amgylcheddol a gwaith trwyddedu ar gyfer y prosiect fel rhan o gontract pum mlynedd gwerth hyd at £25 miliwn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'