Mae gwaith wedi dechrau ar torri gwerth 10 hectar o goed ym Mharc y Bwlch ger Bethesda.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y gwaith fel rhan o gynllun adnoddau ar gyfer Coedwig Bethesda ac Abergwyngregyn.
Fe’i crëwyd yn 2021 a’i nod yw arallgyfeirio rhywogaethau ac adeiladu coedwig fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.
Yn ôl CNC, mae’r gwaith cynaeafu, sy’n digwydd yng nghornel ogledd-orllewinol y goedwig, wedi’i amseru i osgoi cyfnod bridio gwiwerod coch a thymhorau nythu’r rhan fwyaf o adar, gyda gwiriadau’n cael eu gwneud o safbwynt cadwraeth cyn dechrau ar unrhyw waith.
Bydd contractwyr hefyd yn rheoli cyfeiriad y gwaith cwympo i alluogi unrhyw fywyd gwyllt i gilio i goed cyfagos o’r ardal sy’n cael ei thorri.
Bydd rhai o'r coed sy’n cael eu cynaeafu ar gael i'w gwerthu i grwpiau cymunedol lleol.
Dywedodd Kath McNulty, sy'n goruchwylio gweithrediadau coedwigoedd yng Ngogledd Orllewin Cymru: "Bydd y gwaith hwn yn cynnwys coed llarwydd ym Mharc y Bwlch sydd wedi cyrraedd maint da ar gyfer cynaeafu."
"Yn anffodus yng Nghymru, mae coed llarwydd yn agored i glefyd ffwngaidd Phytophthora ramorum sy’n eu lladd, ac mae’n lledu’n gyflym."
"Mae cynaeafu'r coed cyn iddynt gael eu heintio yn helpu i arafu'r lledaeniad. Wrth ailblannu, ni fydd llarwydd yn cael eu defnyddio mwyach."
"Fel rhan o’r gwaith rydym yn cynnal arolygon amgylcheddol i leihau’r effaith ar yr amgylchedd. Hoffem ddiolch i aelodau’r cyhoedd am eu dealltwriaeth yn ystod y gwaith."
Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ym mis Ionawr, ond bydd pren wedi'i dorri, a fydd yn cael ei brosesu i greu cynnyrch parhaol, yn parhau i gael ei symud o'r safle tan ddiwedd mis Ebrill os oes angen.
Bydd y llwybr cludo ar hyd Lôn y Grug, dros y Bwlch i gyfeiriad Rhiwen ac ymlaen i’r A4244.
Bydd y goedwig, gan gynnwys llwybrau cerdded, yn dal i fod ar agor i ymwelwyr gydag arwyddion a chyfarwyddiadau yn eu lle.


Enwau lleoedd cudd yn dod i'r amlwg
Pum dyn yn osgoi carchar am ddwyn gwartheg
Porthladd Rhydd Môn 'yn symud i'r cam cyflawni'
Gwasanaethau plant yn wynebu 'pwysau cynyddol' - addrodiad
Cyllid i hybu cysylltiadau trafnidiaeth lleol