Mae Cyngor Gwynedd wedi methu â chyrraedd ei safonau disgwyliedig, yn ôl ei arweinydd yn dilyn cyhoeddi adroddiad Neil Foden.
Mae Foden yn treulio dedfryd o 17 mlynedd yn y carchar ar ôl iddo gael ei gael yn euog ar 19 cyhuddiad rhwng 2019 a 2023.
Wythnos ers cyhoeddi adroddiad 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder', mae cyngor sir wedi atgyfnerthu ei ymrwymiad i weithredu ac wedi amlinellu'r camau nesaf bydd yr awdurdod yn eu cymryd fel na fydd yr un methiannau yn digwydd eto.

Dwyeddod Nia Jeffreys, arweinydd y cyngor, ei bod yn cydnabod y cwestiynau sydd gan y cyhoedd am y methiannau sy'n cael eu hamlygu yn adroddiad yr adolygiad ymarfer plant.
"Rydym yn llwyr ddeall dymuniad y dioddefwyr a phobl y sir yn ehangach i weld newidiadau mor fuan â phosib."
"Fel cabinet rydym wedi gofyn am sicrwydd gan brif weithredwr y cyngor y bydd pob cam angenrheidiol ac addas yn cael ei gymryd i fynd i'r afael ag unrhyw achos o gamymddwyn neu fethiant i gyrraedd y gofynion statudol neu broffesiynol."
"Rydym wedi derbyn cadarnhad y bydd yr holl gyfleoedd a fethwyd i atal troseddu ffiaidd Neil Foden – gan gynnwys yr holl benderfyniadau, trefniadau a gweithredu dros y blynyddoedd – yn cael eu harchwilio yn gyflawn a thrwyadl gyda chefnogaeth arbenigwyr allanol."
"Byddwn yn gwneud popeth sy'n ddisgwyliedig o gorff cyfrifol sy'n cael ei ariannu gan drethdalwyr - pan nad yw pethau ddigon da, mae cyfrifoldeb arnom i gymryd pob cam y byddai pobl Gwynedd yn disgwyl i ni ei gymryd."
Ym mis Ionawr, mewn ymateb i'r troseddau, mabwysiadodd y cyngor gynllun gweithredu i gryfhau gweithdrefnau mewn ysgolion ac yng ngwasanaethau'r awdurdod lleol.
Sefydlwyd bwrdd ymateb, o dan gadeiryddiaeth annibynnol yr Athro Sally Holland, cyn-gomisiynydd plant Cymru, i oruchwylio'r gwaith allweddol.

Ychwanegodd Nia Jeffreys: "Mae'r wythnos ddiwethaf wedi bod yn gyfle i ni bori trwy gynnwys adroddiad yr AYP yn fanwl, i ddeall yn union beth aeth o'i le ac i ystyried sut y byddwn yn gweithredu ar argymhellion Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru."
"Gyda nifer o'r argymhellion yn rhai cenedlaethol, ein dyhead yw bod ar flaen y gad a byddwn yn cydweithio'n agos â'r Bwrdd Diogelu, Llywodraeth Cymru ac eraill, gan gynnig treialu unrhyw ffyrdd newydd o weithio er budd plant Cymru."
"Ein cam nesaf yw llunio Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd, ac mae'r gwaith hollbwysig yma wedi dechrau."
"Ni fyddwn yn cuddio o'n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant heddiw ac i'r dyfodol, a bydd cyfle i aelodau etholedig y cyngor i herio a datgan eu barn ar y cynllun newydd mewn cyfres o bwyllgorau graffu."
Dyweddod llefarydd ar ran y cyngor: "Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi derbyn holl gasgliadau'r adroddiad; yn cymryd cyfrifoldeb am fethiannau; yn ymddiheuro'n gwbl ddidwyll i'r holl ddioddefwyr; ac yn ymrwymo i barhau i weithio er mwyn gwella trefniadau diogelu'r sir."


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Arestio dyn ar amheuaeth o droseddau hanesyddol