Mae Ysgol Friars wedi penodi ei phennaeth parhaol newydd, Margaret Davies.
Ymunodd â'r ysgol uwchradd ym Mangor ar secondiad fel pennaeth dros dro yn ystod y Pasg 2025, yn dilyn euogfarn y pedoffil Neil Foden.
Roedd hi gynt yn brifathrawes Ysgol Arbennig Sant Christopher yn Wrecsam.
Cafwyd cadarnhad ei bod wedi ei phenodi i'r swydd Ysgol Friars yn barhaol yn ystod cyfarfod o lywodraethwyr yr ysgol yn gynharach y mis hwn.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae Mrs Davies "wedi cyflwyno nifer o newidiadau gan ddod a sefydlogrwydd a chyfeiriad newydd cadarnhaol i'r ysgol" yn ei rôl fel pennaeth dros dro.
Dyweddod Mrs Davies: "Edrychaf ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â'r disgyblion, theuluoedd, staff, y corff llywodraethol a chymuned yr ysgol gyfan."
"Gyda'n gilydd, byddwn yn meithrin diwylliant o gyflawniad uchel, cynhwysiant a pharch, lle mae pob disgybl yn cael ei ysbrydoli i lwyddo."
Ychwanegodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Friars, y Cynghorydd Elin Walker Jones: "Rydym yn llongyfarch Mrs Davies ar ei phenodiad, ac yn edrych ymlaen yn fawr i barhau i gydweithio efo hi i adeiladu ar y seiliau cadarn sydd eisoes yn eu lle ers ei dyfodiad i'r ysgol, a hynny er lles disgyblion, staff a holl gymuned yr ysgol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Jones, aelod y cabinet dros addysg ar Gyngor Gwynedd: "Rydw i'n croesawu'r newyddion yma'n fawr, mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Margaret dros y misoedd diwethaf ac edrychaf ymlaen i barhau â'r berthynas bositif."
"Mae hon yn ddechrau pennod newydd i'r ysgol ac dwi'n siŵr bydd pawb yn ymuno â mi i ddymuno pob llwyddiant i Margaret wrth iddi barhau i arwain yr ysgol gyda ffocws clir ar les, diogelwch a datblygiad pawb yng nghymuned yr ysgol."
Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin rhywiol yn erbyn merched rhwng 2019 a 2023. Roedd yn brifathro Ysgol Friars rhwng 1997 a 2023.


Gwaith i helpu i leihau erydiad yn Ninas Dinlle
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Buddsoddiad yn dod â bywyd newydd i feysydd chwarae
Teyrnged i dad 'annwyl' ar ôl damwain angheuol
Arestio dyn wedi ymosodiad honedig ym Mangor