
Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A487 ger Bangor.
Cafodd y gwasanethau brys eu galw i gwrthdrawiad rhwng beic modur a VW Transporter ar gylchfan y Faenol toc wedi 2.30 prynhawn dydd Gwener.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd y beiciwr modur ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag 'anafiadau a allai fod yn ddifrifol'.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau camera dangosfwrdd a allai helpu ymholiadau.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch ag Uned Plismona'r Ffyrdd ar 101, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod C100066.