Teyrngedau i'r cerddor a'r cynhyrchydd Robin Evans

Monday, 1 June 2026 15:39

By Ystafell Newyddion MônFM

Mynediad am Ddim

Mae'r cerddor a chynhyrchydd teledu, Robin Evans, sy'n fwyaf adnabyddus fel aelod o Mynediad am Ddim, wedi marw yn 72 oed.

Yn wreiddiol o Bencaenewydd ger Pwllheli, roedd yn un o aelodau sefydlu'r band gwerin, a ffurfiwyd ym 1974 i gystadlu mewn Eisteddfod Ryng-golegol yng Nghaerdydd.

Yn dilyn eu llwyddiant, arhosodd y grŵp gyda'i gilydd a recordio pum albwm rhwng 1975 a 2010, ynghyd â chasgliad ym 1992.

Yn 2024 a 2025, aeth y grŵp ar daith genedlaethol o amgylch Cymru i ddathlu 50 mlynedd o berfformio.

Fel cynhyrchydd ar gyfer y cynhyrchiad annibynnol Ffilmiau'r Nant, lansiodd y ddrama ieuenctid Rownd a Rownd, sy'n cael ei ffilmio ym Mhorthaethwy, a'r rhaglen bêl-droed Sgorio ar gyfer S4C.

Yn 2008, unwyd Ffilmiau'r Nant ag Teledu Opus gan greu cwmni newydd o'r enw Rondo Media, gyda Robin yn gadeirydd.

Roedd Robin hefyd yn newyddiadurwr, yn gweithio ar y papur newydd wythnosol Y Cymro ac fel gohebydd chwaraeon ar gyfer rhaglen newyddion HTV, Y Dydd, yn y 1970au a dechrau'r 1980au.

Mewn datganiad ar cyfryngau cymdeithasol, dyweddod yr band: "Does dim geiriau i gyfleu ein tristwch wedi i ni golli Robin y bore ma."

"Aelod sylfaenol, ffyddlon ac annatod o Mynediad am Ddim. Fe ymladdodd Robin yn ddewr ac yn ddigwyno am gyfnod hir, ond mi oedd yn benderfynol cael cwblhau ein taith ddiweddar i ddathlu hanner canrif y band."

"Fedrwn ni mond bod yn ddiolchgar ein bod wedi llwyddo i wneud hynny efo’n gilydd, gan orffen y daith yn Aberystwyth, Chwefror 1af, 2025, sef diwrnod penblwydd Robin. A dyna oedd ein noson olaf."

"Er bod y gagendor mae Robin yn ei adael yn un enfawr, mae cymaint i’w gofio a fydd yn codi gwên wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd o gyfeillgarwch a hwyl a ddeilliodd o rannu llwyfannau trwy Gymru a thu hwnt."

"Ryda ni’n meddwl yn arbennig am LLio a Huw, Heulwen, Emyr, Aled a’u teuluoedd i gyd. ‘Diflannodd y gwydr lliw o’r ffenestri…’

Ychwanegodd llefarydd ar ran Recordiau Sain: "Trist iawn clywed y newydd bore 'ma am Robin Evans."

"Cofiwn yn arbennig am ei lais canu mwynaidd a'i gyfraniad gloyw i fyd canu poblogaidd yng Nghymru am ddegawdau drwy ei rôl gwbl allweddol yn y grŵp gwerin chwedlonol Mynediad am Ddim."

"Diolch, Robin. Meddyliwn am ei deulu a'i gyfeillion oll."

Roedd Robin yn briod â Heluwen gyda dau o blant, Llio a Huw, ac yn byw yng Nghaernarfon.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    7:00pm - 9:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'