Cadwraethwr paentiadau i draddodi darlith Syr Kyffin

Wednesday, 3 June 2026 11:56

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Bydd cadwraethwr paentiadau enwog yn traddodi darlith flynyddol Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams eleni.

Bydd Jenny Williamson yn trafod y wyddoniaeth a'r artistraeth y tu ôl i gadwraeth paentiadau - a sut y gall cadwraeth ddatgelu straeon newydd am weithiau celf - yn Oriel Môn yn Llangefni nos Wener (5 Mehefin).

Mae hi wedi gweithio'n helaeth gyda chasgliadau Cymru drwy gydol ei gyrfa, gan gynnwys mwy nag ugain mlynedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ac mae'n gweithio ar hyn o bryd fel ymgynghorydd annibynnol a swyddog cadwraeth rhan-amser yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe.

Bu’n darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd ac mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Rhyngwladol dros Gadwraeth.

Dyweddod Jenny: "Mae cadwraeth yn caniatáu i ni edrych o dan wyneb y paentiadau a dadorchuddio straeon sy’n guddiedig ynddyn nhw, ac edrychaf ymlaen at rannu rhai o’r darganfyddiadau hyn gyda’r gynulleidfa."

Yn ei darlith, bydd Jenny yn archwilio astudiaeth achos o baentiad olew a briodolir i Syr Peter Lely, lle helpodd ymchwiliad gwyddonol ac ymchwil hanes celf i ddatgelu ffeithiau allweddol am ei darddiad.

Bydd hefyd yn canolbwyntio ar waith cadwraeth ar wyth o baentiadau gan Syr Kyffin Williams, gan gynnig cipolwg prin ar ddeunyddiau, technegau a datblygiad artistig yr artist dros gyfnod o amser.

Ychwanegodd Kelly Parry, uwch reolwr: gwasanaethau amgueddfa ac oriel Cyngor Môn: "Rydym yn falch iawn o groesawu Jenny i gyflwyno Darlith Flynyddol Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams 2026."

"Bydd ei harbenigedd a’i phrofiad helaeth yn darparu noson ddiddorol ac addysgiadol, gan ddathlu gwaddol Syr Kyffin Williams a maes ehangach cadwraeth celf."

Mae'r ddarlith yn dechrau am 7pm ac mae tocynnau'n £5 gan gynnwys lluniaeth. I archebu, ffoniwch 01248 724 444 neu ewch i wefan Oriel Môn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    7:00pm - 9:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'