Mae gwaith wedi dechrau ar naw o dai fforddiadwy newydd ar ystâd ym Morfa Nefyn.
Mae pedwar tŷ dwy ystafell wely a phum tŷ tair ystafell wely yn cael eu hadeiladu ym Maes Twnti fel rhan o ddatblygiad diweddaraf Tŷ Gwynedd, sydd wedi'i anelu at bobl leol.
Mae prosiectau tebyg eisoes wedi digwydd yn ardaloedd Bangor a Llanberis fel rhan o gynlluniau ehangach i fynd i'r afael â phrinder tai drwy adeiladu 1,000 o dai fforddiadwy newydd, gan gynnwys 90 drwy gynllun Tŷ Gwynedd.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae'r gartrefi newydd yn anelu at fynd i'r afael â phrinder tai yn y sir a sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at gartrefi fforddiadwy o safon uchel yn eu cymunedau eu hunain.
Dyweddod y Cynghorydd Paul Rowlinson, aelod y cabinet dros dai ac eiddo: "Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pobl leol yn gallu cael hyd i gartref addas yn eu cymunedau trwy ddarparu tai fforddiadwy, modern ac o safon uchel."
"Mae'r prosiect yma yn dangos hynny yn glir. Mae'r angen am dai fforddiadwy ym Morfa Nefyn yn uchel iawn, fel mewn llawer o ardaloedd ym Mhen Llŷn a ledled Gwynedd, gyda'r rhan helaeth o bobl leol yn ei chael yn amhosibl cystadlu yn y farchnad dai agored."
"Ym Morfa Nefyn mae bron i 75% o aelwydydd wedi'u prisio allan o'r farchnad, sy'n dangos maint yr her sy'n ein wynebu."
"Dyna beth sy'n gwneud cynllun Tŷ Gwynedd mor bwysig. Nid adeiladu tai yn unig ydym ni, ond buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau a sicrhau bod pobl leol yn cael y cyfle i fyw mewn cartrefi o safon, mewn cyfnod lle mae prisiau tai wedi codi y tu hwnt i gyrraedd llawer."
Mae'n bwysig nodi bod y ffordd y gall trigolion lleol ymgeisio am dai Tŷ Gwynedd wedi newid. Bydd modd cyflwyno cais yn uniongyrchol i Gyngor Gwynedd am un o'r tai wrth iddynt ddod ar gael.
Mae'r cyngor bellach wedi dechrau gweinyddu ei gynlluniau tai fforddiadwy yn uniongyrchol trwy'r Siop un Stop Tai, gan ei gwneud yn haws i drigolion gael mynediad at wasanaethau tai mewn un lle.
Ychwanegodd Bart Wilkins, cyfarwyddwr contractau Grŵp Castlemead, sy'n adeiladu'r datblygiad Maes Twnti: "Mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar sylfeini'r plot gyda gwaith seilwaith i ddilyn yn fuan."
"Mae'r cartrefi newydd wedi'u cynllunio i gyrraedd perfformiad thermol uchel, gan helpu trigolion y dyfodol i arbed arian ar gostau gwresogi a biliau ynni, tra hefyd yn gwneud y cartrefi yn fwy cyfforddus i fyw ynddynt."
"Edrychwn ymlaen at weld y safle'n symud ymlaen tuag at y dyddiad cwblhau disgwyliedig yn haf 2027."


Cadwraethwr paentiadau i draddodi darlith Syr Kyffin
Bangor: cyhuddo dyn o drais domestig
Caernarfon: apêl i adeiladu eisteddle Wyn Davies
Teyrngedau i'r cerddor a'r cynhyrchydd Robin Evans
Diolch yr Urdd i Ynys Môn