Mae dyn 28 oed o Fangor wedi ymddangos yn y llys ar nifer o gyhuddiadau o drais domestig.
Cafodd Mredul Ontor, o Stryd Deiniol, ei arestio yn dilyn aflonyddwch yn y ddinas ddydd Sul.
Mae wedi cael ei gyhuddo o wyth trosedd, gan gynnwys bygythiadau i ladd, ymosodiad drwy ergydio, ymosodiad sy'n achosi niwed corfforol, ymddwyn mewn ffordd oedd yn rheoli neu’n gorfodi rhywun arall, ac ymosodiad ar blentyn er mwyn achosi dioddefaint neu anaf diangen.
Cafodd Ontor ei gadw yn y ddalfa pan ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Bydd yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener 3 Gorffennaf.


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir