Mae beiciwr modur wedi cael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A5 yn Nyffryn Ogwen.
Cafodd y gwasnaethau brys eu galw i gwrthdrawiad rhwng beic modur BMW coch a fan Ford Transit glas toc wedi 4.40yp prynhawn Mawrth.
Bu'r ffordd ar gau am sawl awr rhwng Llyn Ogwen a Chapel Curig ond mae wedi ailagor ers hynny.
Aethpwyd â'r beiciwr modur mewn ambiwlans awyr i uned trawma arbenigol yn Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke.
Mae ymchwiliad i'r ddamwain yn parhau ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â lluniau camera i ddod ymlaen.
Dwyeddod y Rhingyll Leigh McCann o Uned Plismona Ffyrdd: "Rydym yn ymchwilio i holl amgylchiadau’r gwrthdrawiad hwn ac yn annog unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a oedd yn teithio ar hyd yr A5 ger Dyffryn Ogwen ar y pryd, i gysylltu â ni."
“Rwy’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â lluniau camera dashfwrdd a allai fod wedi cofnodi'r naill gerbyd neu’r llall ar adeg y gwrthdrawiad, neu cyn hynny.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch ag Uned Plismona'r Ffyrdd ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod O107768.


Interniaid newydd yn ymuno â phrosiect Morlais
Gŵyl Arall 2026 yn fwy 'uchelgeisiol'
Cyllid ar gyfer tri phrosiect arfordirol
Plant Môn yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr
Treth twristiaeth: ymgynghoriad yn parhau