Mae dyn o Gaergybi, sy'n cael ei gyhuddo o lofruddio ei dad, wedi'i gadw yn y ddalfa tan fis Ionawr.
Cafodd Martin Ward ei arestio ar ôl i gorff Michael Ward gael ei ddarganfod mewn fflat yn Llys Watling ar Ffordd Llundain yn oriau mân fore Sadwrn.
Mae'r teulu wedi disgrifio Mr Ward, oedd yn 53 oed, fel "dyn teulu cariadus hefo calon fawr".
Fe wnaeth Martin Ward, 33 oed o Ffordd Kingsland, Caergybi, yn Llys y Goron Caernarfon fore Mercher dros ddolen fideo.
Mae dyddiad dros dro, sef dydd Llun 5 Ebrill, wedi'i bennu ar gyfer yr achos ac mae disgwyl iddo bara tua phythefnos.
Cafodd Ward ei gadw yn ddalfa tan wrandawiad ple ddydd Llun, 25 Ionawr.
Mae ditectifs yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y farwolaeth i ddod ymlaen.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Chwilio am fusnes newydd i redeg caffi Oriel Môn