Mae dyn o Gaerwen wedi cael ei gyhuddo o nifer o droseddau cyffuriau.
Cafodd Ryan James, 30 oed, ei gyhuddo o feddu ar gocên a chanabis gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o feddu ar amffetamin, gwyngalchu arian a bwrgleriaeth.
Ym Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener, cafodd James ei gadw yn y ddalfa am fis a bydd yn ymddangos nesaf gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun 23 Tachwedd.
Dywedodd y Rhingyll Dylan Thomas o Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffwn ddiolch i’r gymuned am eu cefnogaeth barhaus ac am y wybodaeth y maent yn ei darparu ynghylch y materion sy’n peri’r pryder mwyaf iddynt."
"Bydd unrhyw un yr amheuir ei fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn cael ei erlid."
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod Ynys Môn yn parhau i fod yn amgylchedd gelyniaethus i droseddwyr weithredu ynddo."
"Rwy’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyffuriau yn y gymuned i roi gwybod i’r heddlu am eu pryderon, neu i gysylltu’n ddienw â Crimestoppers."


Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr
Chwilio am fusnes newydd i redeg caffi Oriel Môn