A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir

Thursday, 27 August 2026 17:00

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph

Mae dyn 31 oed o Iwerddon wedi pledio'n euog i yrru tacsi ar ochr anghywir yr A55.

Roedd Darragh O'Grady, heb gyferiad sefydlog, wedi'i gyhuddo o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus, gyrru'n beryglus, cymryd cerbyd o dan amgylchiadau gwaethygol a throseddau gyrru eraill.

Cafodd ei gyhuddo hefyd o droseddau eraill gan gynnwys dwyn a thwyll trwy gamliwio mewn perthynas â digwyddiad yng Nghaergybi ar nos Lun.

Cafwyd adroddiad bod tacsi wedi’i ddwyn o Gaergybi tua 7.30yh nos Lun. Yn fuan wedyn, bu’r tacsi mewn gwrthdrawiad â seiclwr ar Ffordd Llundain.

Cafodd y beiciwr ei gludo i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol, ond nid yw ei fywyd mewn perygl.

Yna aeth y tacsi ar yr A55 tua’r gorllewin gan deithio ar y ffordd gerbydau tua'r gorllewin. Llwyddodd swyddogion i stopio’r cerbyd yn ddiogel ar yr A55 ar ôl cau’r ffordd.

Plediodd O'Grady yn euog i achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus, methu â darparu sampl, gyrru cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti a gyrru heb drwydded briodol.

Bydd yn pledio'n ffurfiol i'r cyhuddiadau o gymryd cerbydau o dan amgylchiadau gwaethygol, dwyn oddi ar unigolyn a thwyll drwy gamliwi yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener 18 Medi.

Yn ôl ditectifs, nid oes unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod digwyddiadau nos Lun wedi’u ffilmio er mwyn eu huwchlwytho i’r cyfryngau cymdeithasol, ond mae ymwchwiliad yn parhau.

Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "'Da ni'n atgoffa'r cyhoedd bod yr achos yn parhau. Felly, 'da ni'n annog pobl i beidio â dyfalu am fanylion y digwyddiad na'r cymhellion y tu ôl iddo."

Cafodd O'Grady ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Jiwcbocs gyda Vaughan a Llinos

    10:00am - 1:00pm

    Cerddoriaeth wych, sgwrs ysgafn a digon o hwyl gyda Vaughan a Llinos bob bore Sadwrn!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'