Mae asiantaeth tai yng Nghaergybi wedi cael ei hailwampio fel rhan o raglen adfywio parhaus.
Mae Williams & Goodwin ar Stryd Stanley ymhlith nifer o adeiladau hanesyddol a siopau sy'n cael eu hadfer gan raglen Treftadaeth Treflun Caergybi.
Mae'r gwaith adfer wedi dychwelyd blaen yr adeilad i'w ymddangosiad gwreiddiol tua 100 mlynedd yn ôl, ac o ganlyniad mae'r cwmni hefyd wedi buddsoddi mewn gwelliannau i'r tu mewn i'r adeilad.
Dywedodd Melfyn Williams sy'n gyfarwyddwr ar y cwmni, fod y buddsoddiad wedi rhoi hyder newydd a hwb i'r dref.
"Mae gweld blaen y siop wedi'i adfer i'w gymeriad gwreiddiol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn rhan o'r gwaith adfywio hwn."
"Mae'r buddsoddiad yn y dref yn helpu i greu amgylchedd mwy deniadol ac mae eisoes wedi dechrau annog mwy o bobl i ymweld â Chaergybi a threulio amser yma."
"Mae hefyd wedi rhoi'r hyder i fusnesau fel ein busnes ni barhau i fuddsoddi yng Nghaergybi a chefnogi'r gymuned leol."

Mae adfywio canol y dref yn un o nifer o brosiectau wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Ynys Môn.
Mae dros £3.25m yn cael ei wario ar raglen Treftadaeth Treflun Caergybi mewn ymdrech i ddenu mwy o ymwelwyr ac annog buddsoddiad pellach yn yr ardal.
Mae Williams a Goodwin - sy'n nodi ei ben-blwydd yn 25 oed eleni - yn cyflogi pump aelod o staff llawn amser yng Nghaergybi, lle mae ei swyddfa hefyd yn cael ei rhannu gan gangen o Principality, yr unig gymdeithas adeiladu sydd ar ôl yn y dref.
Ychwanegodd arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard: "Mae prosiectau fel hyn yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall buddsoddiad sy'n seiliedig ar dreftadaeth ei chael ar ganol ein trefi."
"Mae adfer yr adeiladau hanesyddol nid yn unig wedi diogelu cymeriad unigryw Caergybi, ond hefyd yn creu amgylchedd croesawgar i drigolion, ymwelwyr a busnesau."
"Mae Menter Treftadaeth y Dref yn rhan o raglen fuddsoddi ehangach sy'n helpu i adfywio Caergybi a chreu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol."
Mae gwaith yn parhau ar sawl eiddo yn y dref fel rhan o'r rhaglen.


Gareth Evans-Jones yn ennill Medal Ryddiaith
Y Prif Weinidog yn yr Eisteddfod
Penri yn ennill Medal R. Alun
Pwllheli: apêl am dystion ar ôl ymosodiad
Ysgoloriaeth i artist ifanc o Ddeiniolen