Agor cwest i farwolaeth gyrrwr ifanc

Friday, 10 April 2026 12:13

By Ystafell Newyddion MônFM

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Bu farw dyn 20 oed o anafiadau difrifol i'w ben mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd, yn ôl patholegydd.

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth Elis Ogilvy-Barsdley o Bwllheli yn dilyn y damwain ar yr A499 ger Y Ffôr fis diwethaf.

Roedd Mr Ogilvy-Barsdley yn gyrru car Ford Fiesta du pan wrthdarodd ag Audi A3 coch ar nos Sadwrn 28 Mawrth.

Bu farw Mr Ogilvy-Bardsley yn y fan a'r lle a chafodd tri o bol ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Yn dilyn archwiliad post mortem, cofnodwyd achos marwolaeth dros dro fel "anaf difrifol i'w ben yn dilyn grym sylweddol".

Gohiriwyd y cwest gan grwner cynorthwyol y gogledd orllewin, Sarah Riley, tra bod ymchwiliad yr heddlu i'r ddamwain yn parhau.

Roedd Mr Ogilvy-Bardsley yn gweithio yn y siop Asda yn ei dref enedigol ac wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Bangor lle'r oedd yn paratoi i astudio'r Cyfryngau.

Mewn terynged drwy'r heddlu, dwyeddod ei deulu: "Roedd Elis yn fab, brawd, ŵyr, nai a chefnder gofalgar ac ystyriol."

Mae apêl ar-lein er budd ei deulu wedi codi mwy na £22,000 mewn llai na phythefnos.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'