Mae'r estyniad newydd i lwybr cerdded Cob Crwn ym Mhortmadog wedi'i agor i'r cyhoedd.
Mae cyllid gan lywodraethau'r DU a Chymru wedi'i wario ar wella cyfleusterau hamdden a hygyrch yng nghanol y dref fel rhan o gynllun adfywio ehangach.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, bydd angen peth gwaith yn y wythnosau nesaf i gwblhau'r prosiect, sy'n edrych dros Afon Glaslyn a Llyn Bach.

Dyweddod arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys, sydd hefyd yn aelod lleol dros Dwyrain Porthmadog: "Mae’r ardal hon yn ardal bwysig i drigolion Porthmadog ac mae’r gwelliannau yn rhoi cyfle i fwy o bobl fwynhau’r ardal."
"Mae’n galonogol gweld buddsoddiad yn ein tref yn arwain at welliannau ymarferol i’r gymuned, ac yn cyfrannu at y gwaith o adfywio’r dref."
"Mae bwriad i gynnal agoriad swyddogol i ddathlu’r gwaith a dwi’n annog pobl leol fyddai’n dymuno mynychu i gadw golwg am fwy o fanylion fydd yn cael eu cyhoeddi yn fuan."

Mae estyniad Cob Crwn wedi cael ei ariannu drwy raglen Trawsnewid Trefi gan Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac fe’i datblygwyd a’i wireddu ar y cyd gan Adran Economi, Amgylchedd a YGC Cyngor Gwynedd.
Mae'r cyngor hefyd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar sut i wella cysylltiadau teithio llesol ar draws Gwynedd ar gyfer cerdded, beicio ac yn defnyddio cadair olwyn.
Ychwanegodd y Cynghorydd R. Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros y gymuned: "Mae’n wych gweld y llwybr bellach ar agor ac ar gael i’r gymuned."
"Mae buddsoddi mewn mannau cyhoeddus, gwella cysylltiadau a chreu cyfleoedd i bobl gerdded a beicio yn rhan bwysig o wneud ein trefi yn lleoedd deniadol a hygyrch i fyw, gweithio ac ymweld."


Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi
Marwolaeth yn Abermaw: rhyddhau dyn heb gamau pellach