Mae chwiliadau helaeth yn parhau am fam baban newydd-anedig a ddarganfuwyd ei gorff ar y lan ym Mangor.
Mae archwiliad ôl-farwolaeth wedi'i gynnal yn dilyn y darganfyddiad gan aelod o'r cyhoedd ger ardal Ffordd Siliwen.brynhawn Sul diwethaf.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau eraill i sefydlu'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r farwolaeth yn gyflym.
Mewn apêl newydd at y fam, dyweddod yr Uwcharolygydd Llinos Davies: "Fy neges iddi yw nad oes rhaid i chi wynebu hyn are ich pen eich hun."
"Cysylltwch â ni a cheisiwch y cymorth y gallai fod ei angen arnoch. Mae yna bobl yn barod i’ch helpu."
Ychwanegodd: "Ein prif bryder o hyd yw iechyd a lles y fam."
"Rwy’n deal bod hyn yn ddigwyddiad sy’n sioc i’r gymued ac rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth a’r cymorth rydym wedi’i dderbyn hyd yn hyn."
"Rwy’n parhau i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am fenyw neu ferch rydych chi’n meddwl y gallai fod wedi bod yn feichiog neu y mae ei hymddygiad wedi bod yn anarferol neu’n groes i’w chymeriad dros y misoedd diwethaf i gysylltu â ni."
"Bydd yr holl enwau a dderbynnir yn cael ei drin gyda’r disgresiwn mwyaf a gellir ei ddileu fel y fam heb oedi."
Bydd yr heddlu'n cynnal presenoldeb uwch yn yr ardal yn y dyddiau nesaf fel rhan o'r ymchwiliad ac mae cordonau yn parhau yn eu lle er mwyn caniatáu i swyddogion gyflawni eu dyletswyddau.
Dywedodd Fiona Giraud, cyfarwyddwr bydwreigiaeth gan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Mawrth: "Mae gynno ni bryderon go iawn am iechyd y fam."
"‘Da ni’n cydnabod y bydd y fam yn debygol o fod yn hynod fregus. Efallai ei bod hi ofn chwilio am yr help mae hi ei angen gan ei bod ofn dweud pwy ydy hi."
Os oes gynnoch chi unrhyw bryderon uniongyrchol, cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu Ymgyrch Melex neu drwy'r gwefan arbennig sydd wedi creu mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.
Fel arall, cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu gwasanaeth Ymholiadau a Datrys Pobl gan bwrdd Betsi Cadawaladr ar 03000 851 234 rhwng 10yb a 4yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.


Caergybi: arestio dyn wedi ymosodiad honedig
Darganfod gwyfyn prin ym Mhen Llŷn
Bangor: apêl uniongyrchol yn dilyn marwolaeth babi
Cwpan Cymru: Caernarfon yn wynebu Y Fflint eto
Cau'r brif ffordd fynediad i Landdwyn oherwydd gwaith