Mae bachgen chwech oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd yn Llanfairfechan.
Mae dyn 39 oed wedi cael ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad toc wedi 5yh nos Iau.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, bu farw bachgen yn y fan a'r lle "er ymdrechion gorau'r gwasanethau brys" ac mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt sydd wedi'u hyffordi'n arbennig.
Mae'r dyn a gafodd ei arestio yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliadau.
Cafodd nifer o ffyrdd eu cau yn ardal Ffordd Pen-Y-Bryn a Ffordd Bryn gyda'r heddlu'n annog modurwyr i osgoi'r ardal.
Dyweddod y Ditectif Arolygydd Tim Evans o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r bachgen ifanc ar yr adeg anodd iawn hon."
"Mae ymchwiliad i'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r gwrthdrawiad yn parhau ac rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a allai fod â lluniau dashcam o'r ardal ar y pryd, i gysylltu â ni trwy ffonio 101, gyda’r cyfeirnod O162122"


Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi
Marwolaeth yn Abermaw: rhyddhau dyn heb gamau pellach