Marwolaeth babi: darganfod corff merch - heddlu

Thursday, 1 October 2026 14:38

By Ystafell Newyddion MônFM

Google

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai corff merch fach gafodd ei ddarganfod ar y lan ym Mangor.

Mae archwiliad post-mortem wedi cael ei gynnal yn dilyn darganfod corff y baban newydd-anedig ger Ffordd Siliwen brynhawn Sul diwethaf.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, yr arwyddion cychwynnol yw gallai fod wedi bod yn y dŵr am hyd at ychydig wythnosau ond mae profion pellach yn cael eu cynnal i ddarganfod mwy am y ferch fach.

Yn y cyfamser, mae'r awdurdodau wedi gwneud apêl uniongyrchol arall at fam y babi, yng nghanol pryderon am ei diogelwch a'i lles.

Dyweddod Uwcharolygydd Llinos Davies o Heddlu Gogledd Cymru: "Yn dilyn darganfyddiad trasig o gorff babi ym Mangor ar ddydd Sul, y 27ain o Fedi, mae post mortem bellach wedi’i gwblhau. Rydym nawr yn gwybod mai merch oedd y babi bach."

"Rydym yn deal y gall y fam fod yn ofnus o ddod ymlaen ond rydym yn ei hannog i gysylltu â ni. Hoffwn roi sicrwydd iddi mai ei lles a’i diogelwch yw ein pryder pennaf."

"Dylai unrhyw un sydd â phryderon am ferch neu fenyw rydych chi’n meddwl y gallai wedi bod yn feichiog neu y mae ei hymddygiad wedi bod yn anarferol neu allan o gymeriad yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys tynnu’n ôl o ffrindiau, teulu neu gysylltiadau cymdeithasol, i gysylltu â ni."

"Plis gwnewch y peth iawn i sicrhau bod y fam hon yn cael y cymorth iechyd sydd ei hangen arni. Bydd pob enw a dderbynnir yn cael ei drin hefo’r disgresiwn mwyaf ac fe ellir eu dileu fel y fam heb oedi."

Mae ditectifs yn dweud eu bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau eraill i sefydlu'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r farwolaeth yn gyflym.

Mae swyddogion yn parhau i fod yn yr ardal ac mae cordonau yn parhau yn eu lle, tra eu bod hefyd yn derbyn cyngor arbenigol ynghylch eu hymchwiliad.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mai’r fam "ye ei blaenoriaeth o hyd".

Mewn apêl uniongyrchol newydd at y fam, dyweddod Fiona Giraud, cyfarwyddwr bydwreigiaeth a gwasaneathau merched BIPBC: "Ein prif bryder ar unwaith yw eich iechyd, eich diogelwch a'ch lles o hyd."

"Efallai eich bod yn teimlo nad oes gennych unrhyw le i droi, neu na allwch siarad ag unrhyw un am yr hyn sydd wedi digwydd. Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun."

"Nid ydym eto yn gwybod yr holl amgylchiadau sy’n ymwneud â marwolaeth eich babi, ond yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn dod o hyd i chi, yn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel, ac yn sicrhau eich bod yn cael unrhyw sylw meddygol a chymorth y gallai fod ei angen arnoch."

"Rwy’n gofyn i chi’n bersonol, plis cymerwch y cam cyntaf a cysylltwch â ni. Mae yna bobl i’ch helpu chi."

Os oes gynnoch chi unrhyw bryderon uniongyrchol, cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu Ymgyrch Melex neu drwy'r gwefan arbennig sydd wedi creu mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.

Fel arall, cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu gwasanaeth Ymholiadau a Datrys Pobl gan bwrdd Betsi Cadawaladr ar 03000 851 234 rhwng 10yb a 4yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    1:00pm - 4:00pm

    Two hours of great music with Yvonne on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'