Caergybi: arestio dyn wedi ymosodiad honedig

Wednesday, 30 September 2026 20:50

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad rhywiol yn dilyn digwyddiad yng Nghaergybi.

Cafodd y dyn ei adnabod a'i arestio gan yr heddlu yn fuan ar ôl yr aflonyddwch, ychydig cyn 5pm brynhawn Mercher.

Mae'n parhau yn y ddalfa ond nid oes rhagor o fanylion ar hyn o bryd.

Dywed ditectifs fod y digwyddiad wedi achosi pryder sylweddol yn y gymuned, ac anogir y cyhoedd i osgoi dyfalu am yr amgylchiadau ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i'r ymchwiliad barhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn deall bod y digwyddiad hwn wedi achosi pryder sylweddol yn y gymuned, ac hoffem roi sicrwydd i drigolion ein bod yn cymryd adroddiadau o'r math hwn o ddifrif."

"Gan fod hon bellach yn ymchwiliad gweithredol, rydym yn annog aelodau o'r cyhoedd i beidio â dyfalu ar-lein ynghylch amgylchiadau'r digwyddiad, er mwyn caniatáu i'n hymholiadau barhau."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'