Mae deliwr cyffuriau a gyflenwodd gocên yn ardal Amlwch wedi cael ei garcharu am dair blynedd.
Mi gafodd Christopher McGrath o Gemaes ei arestio ym mis Rhagfyr 2025, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng ditectifs yng Ngogledd Cymru a Glannau Mersi, wneath ganolwbyntio ar ymgyrch cyflenwi cyffuriau.
Mi atafaelwyd ei ffôn gan swyddogion, oedd yn cynnwys negeseuon swmp yn hysbysebu cocên rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2025.
Yn Llys y Goron Caernarfon, pleidiodd McGrath, 44 oed, yn euog o fod yn rhan o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Mi dderbyniodd orchymyn ymddygiad troseddol sy’n para pum mlynedd.

Dywedodd Rhingyll Dylan Thomas o’r tîm plismona cymdogaethau: “Mae gwerthu cyffuriau yn felltith ar ein cymunedau lleol ni, ac mae’n effeithio’n uniongyrchol ar y bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardal."
"Dydy troseddwyr sy’n ymwneud â throseddau trefnedig yn malio dim am neb heblaw eu hunain, ac mi wnawn nhw achosi niwed trychinebus i bobl fregus er eu helw ariannol eu hunain."
"Mi wnaiff ein tîm ni barhau i wneud Ynys Môn yn lle anghyfeillgar i’r rhai sy’n ymwneud â throseddoldeb trefnedig, a dod â throseddwyr o flaen eu gwell."


Cadwraethwr paentiadau i draddodi darlith Syr Kyffin
Bangor: cyhuddo dyn o drais domestig
Caernarfon: apêl i adeiladu eisteddle Wyn Davies
Teyrngedau i'r cerddor a'r cynhyrchydd Robin Evans
Morfa Nefyn: gwaith yn dechrau ar gartrefi newydd