Apêl i adrodd am droseddau treftadaeth

Friday, 22 November 2024 15:21

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae awdurdodau yng Ngwynedd yn annog pobl i adrodd am ddifrod troseddol i'r amgylchedd neu henebion yn yr ardal tirwedd llechi.

Mae’n dilyn nifer o achosion o ddifrod troseddol ym mharc gwledig Parc Padarn yn Llanberis yn ystod y flwyddyn.

Mae cabannau fu'n cael eu defnyddio gan chwarelwyr wedi cael eu difrodi ac mae hen gerrig copa ar waliau wedi eu torri neu eu dymchwel.

Mae mae cerrig wedi eu taflu i byllau chwareli ger Chwarel Vivian ac mae boncyffion coed wedi eu gwthio o'u lle ac mae arwyddion ffyrdd yn ardal yr Allt-Ddu wedi eu difrodi.

Yn diweddar, dechreuwyd tân yn fwriadol mewn tŷ weindio ar ben inclein yr A1, cyn gwaith cadwraeth ar y safle.

Mae'r apêl wedi'i gwneud gan Gyngor Gwynedd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Treftadaeth.

Dywedodd arweinydd dros dro y cyngor, Nia Jeffreys: "Mae ein treftadaeth leol yn hanfodol bwysig i'n diwylliant a'n hanes. Mae hefyd yn rhan annatod o'r economi leol gan ei fod yn denu ymwelwyr o bell ac agos."

"Rwyf felly yn annog pobl i barchu ein hasedau hanesyddol ac os oes unrhyw un yn gwybod rhywbeth am y digwyddiadau hyn – neu unrhyw ddigwyddiad arall lle mae creiriau hanesyddol wedi eu difrodi – i gysylltu â'r heddlu.

"Mae atgyweirio unrhyw ddifrod fel yr achosion hyn ym Mharc Padarn yn cymryd amser ein wardeiniaid ac yn eu cadw rhag gwaith hanfodol arall."

"Mae hefyd yn faich ariannol arnom ni fel awdurdod, sy'n arbennig o bryderus ar adeg pan mae'r Cyngor yn gorfod bod yn hynod ofalus o bob ceiniog oherwydd cyllidebau sy'n crebachu."

Mae'r cyngor yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a Cadw i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am droseddau yn erbyn treftadaeth ac eiddo diwylliannol, ac i annog adrodd.

Yn ôl swyddogion, mae codi ymwybyddiaeth o droseddau treftadaeth yn arbennig o berthnasol yn dilyn y digwyddiadau ym Mharc Padarn.

Dyweddod y Cynghorydd Nia Jeffreys ei bod yn bosib iawn nad ydi'r bobl sydd wedi achosi'r difrod yn llawn sylweddoli eu bod yn peryglu rhan o'n diwylliant a threftadaeth hanesyddol leol.

Ychawnegodd: "Mae'r cerrig copa ar yr hen waliau er enghraifft yn drysor hanesyddol ynddynt eu hunain, gan eu fod chwarelwyr dros y canrifoedd wedi torri eu henwau neu wedi naddu lluniau arnynt. Os bydd rhain yn cael eu difrodi, byddant yn cael eu colli am byth."

"Yn yr un modd, mae'r cabanau hefyd yn rhan annatod o'n hanes diwydiannol, ac mae'n bwysig ein bod yn eu cynnal a'u cadw fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu am y chwareli a'r cymunedau a ddatblygodd o gwmpas y gwaith."

"Mae'n bwysig cofio bod ardal Chwarel Dinorwig yn rhan o'r tirwedd llechi sydd wedi cael dynodiad safle treftadaeth y byd UNESCO, ac rydym am ddiogelu a dathlu hanes, diwylliant a threftadaeth ddiwydiannol yr holl ardal."

"Byddai'n dorcalonnus pe bai lleiafrif bach o unigolion di-hid yn difetha'r trysorau hanesyddol hyn."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am droseddau treftadaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ewch i'w gwefan. Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    7:00am - 10:00am

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'