Roedd Pont y Borth ar gau am dros dau awr ar gyfer archwiliad yn dilyn croesiad gan gerbyd gorbwysau.
Mae cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell ar waith yn ystod ail gam y gwaith cynnal a chadw ar y bont.
Cafodd y bont ar gau tua 8.15yb bore Mercher er mwyn gwneud achwiliad diogelwch ond mae wedi cael ei ailagor ers hynny.
Dyma oedd y drydedd tro mewn dau fis i'r bont gau yn dilyn torri cyfyngiadau pwysau.
Dwyeddod llefarydd ar ran Traffig Gymru: "Mae cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont felly mae’n rhaid cau’r ffordd er mwyn gwneud archwiliad. Byddwn yn ail agor y bont cyn gynted ag sy’n saff i wneud hynny."
"Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, mae eich diogelwch yn holl bwysig. Hoffwn eich hatgoffa mai cerbydau o dan 7.5t yn unig sy’n cael croesi Bont y Borth."
Ailagorodd y bont i draffig toc cyn 11yb ond mae un lôn ar gau bob dydd rhwng 10am a 6pm tan ddydd Gwener.
Cafodd y bont ei chau penwythnos diwethaf hefyd i ddiogelu ceblau cyfathrebu sy'n cysylltu Ynys Môn ag Iwerddon.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr