Mae dyn wedi cael ei arestio am gario llafn ym Mhrifysgol Bangor.
Cafodd yr heddlu eu galw i ganolfan Pontio toc cyn 2.30pm brynhawn Gwener yn dilyn addroddiad o ddyn â chyllell boced yn ei feiddiant
Mewn ymateb cynyddwyd patrolau'r heddlu ar dir y brifysgol i roi tawelwch meddwl.
Yna, mi gafodd dyn lleol 19 oed ei arestio o dan amheuaeth o droseddau’r drefn gyhoeddus.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Jamie Owens o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae gwaith yn parhau efo’r brifysgol wrth i ymholiadau barhau yn dilyn y digwyddiad ar ddydd Gwener."
"Mi hoffwn i dawelu meddwl y gymuned nad ydyn ni’n chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad. Mi wnaiff patrolau amlwg barhau yn yr ardal er mwyn tawelu meddwl."


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr