Mae gyrrwr wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Amlwch dros nos.
Mae'r heddlu'n apelio am dystion yn dilyn digwyddiad ar Heol Llanelian tua 1am fore Sul, pan wrthdarodd cerbyd symudol â cherbyd wedi'i barcio.
Nid oes unrhyw fanylion pellach ond mae ymchwiliadau'n parhau.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000493809.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr