Arestio tri mewn "diwrnod gweithredu cyffuriau"

Friday, 5 June 2026 17:35

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae tri o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn gyrchoedd cyffuriau yn ardaloedd Caergybi a'r Dyffryn.

Mi gynhaliodd yr heddlu bedair gwarant mewn eiddo ar ddydd Iau o ganlyniad i ymwchwiliad rhagweithiol a chasglu cudd-wybodaeth gan swyddogion cymdogaeth.

Mi atafaelwyd yr hyn a amheuir o fod yn gocên a chanabis.

Cafodd tri o bobl eu holi mewn cysylltiad â chyflenwi cyffuriau ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad tra bod ymchwiliadau'n parhau.

Dywedodd Cwnstabl Andrew Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Mi ddaw'r canlyniadau hyn ar ôl pryderon cymunedol ynglŷn â chyflenwad cocên a chetamin yn yr ardal."

"Does dim ots gan y bobl sy'n dod â chyffuriau i'n cymunedau ni ynglŷn â'r poen a'r gofid maen nhw'n eu hachosi. Dydyn nhw ond yn poeni ynglŷn â'r elw mawr gallen nhw ei gael drwy gam-fanteisio pobl fregus."

"'Da ni'n diolch i aelodau'r cyhoedd am eu help a'u gwybodaeth barhaus, sy'n ein helpu ni dynnu cyffuriau oddi ar strydoedd Ynys Môn."

"'Da ni'n annog y cyhoedd i gyflwyno unrhyw bryderon ynglŷn â chyflenwi cyffuriau yn eu cymuned nhw, ac mi wnawn ni ymchwilio'r wybodaeth 'da ni'n ei dderbyn yn drwyadl."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 8:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'