Mae ditectifs wedi atafaelu tybaco anghyfreithlon ac arian parod o ddwy siop ym Môn.
Cafodd dau warant eu gweithredu gan yr heddlu a swyddogion Safonau Masnach yr wythnos diwethaf, gyda chefnogaeth ci wedi ei hyfforddi i ganfod tybaco o WagtailUK, yn dilyn pryderon gan trigolion lleol.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r eitemau a atafaelwyd o'r ddau safle yn ganlyniad uniongyrchol i wybodaeth a roddwyd i ni gan y gymuned."
"Rwy'n gobeithio ein bod ni wedi tawelu meddyliau yn y gymuned o ganlyniad i'r gweithredu yr wythnos diwethaf drwy gadw cynnyrch peryglus oddi ar y strydoedd."
"Mae ymchwiliadau'n parhau ac rydym yn diolch i'r trigolion am eu cefnogaeth barhaus gyda'r mater."
Mae swyddogion yn annog unrhyw un sydd â phryderon am gynnyrch anghyfreithlon ar yr ynys i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru, Safonau Masnach Ynys Môn neu yn ddienw drwy Crimestoppers.


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir