Mae'r heddlu'n apelio am gymorth i olrhain bachgen yn ei arddegau sydd ar goll o Fangor.
Mae swyddogion yn bryderus am Chris, sy'n 17 oed ac sydd â chysylltiadau hysbys ag ardaloedd Caergybi, Y Rhyl a Phrestatyn a Wrecsam.
Mae Chris yn 5’6”, efo gwallt brown golau, ac mi gredir ei fod yn gwisgo cap pêl fas du, côt ‘efo padin’ ddu, trowsus llwyd ac esgidiau ymarfer corff llwyd.

Nid oes unrhyw fanylion pellach ond os oes gennych unrhyw wybodaeth am ei leoliad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod O132618.


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir