Mae siopledr "toreitiog" o Fangor wedi cael ei garcharu ar ôl dwyn gwerth £200 o ddillad.
Plediodd Thomas Lloyd, 28 oed, yn euog ddwyn pedwar dilledyn o siop JD ar y Stryd Fawr yn y ddinas fore Iau diwethaf.
Cafodd ei arestio a'i gyhuddo ar ôl i'r lladrad gael ei ffilmio ar deledu cylch cyfyng.
Yn Llys Ynadon yr Wyddgrug fore Sadwrn, cafodd ei garcharu am gyfanswm o 10 wythnos, gan gynnwys dedfryd ohiriedig o bedair wythnos.
Roedd yn ymddangos yn y llys am yr ail dro mewn llai na wythnos, yn dilyn ddwyn arall.
Dywedodd Rhingyll Gemma Rodrigues o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn parhau i gefnogi siopau a busnesau lleol wrth iddynt fynd i'r afael â throseddau manwerthu ar draws Gogledd Gwynedd."
"Rydym yn cydnabod effaith dwyn o siopau, nid yn unig ar fusnesau a'u staff ond hefyd ar y gymuned leol. Bydd ein timau yn parhau i ddelio'n gadarn gydag unrhyw ladradau o siopau ac yn edrych i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell cyn gynted â phosibl."
Cafodd hefyd orchymyn i dalu £200 mewn iawndal.


Tacsi wedi'i ddwyn a'i yrru ar ochr anghywir yr A55
Gyrru car ar ochr anghywir yr A55
Carcharu pedoffil am ymosod ar ferch
Perchnogion newydd i gwmni MAD
Llongyfarchiadau i fyfyrwyr TGAU