Bydd y brif ffordd mynediad i Goedwig Niwbwrch a Thraeth Llanddwyn ar gau ar gyfer gwaith hanfodol fis nesaf.
Mae Cyngor Ynys Môn yn dweud y bydd system ddraenio newydd ger yr eglwys er mwyn helpu i ddiogelu'r briffordd a lleihau'r risg o broblemau yn y dyfodol.
Oherwydd y gwaith, ni fydd mynediad i gerbydau o bentref Niwbwrch i brif faes parcio ymwelwyr traeth Llanddwyn yn ystod yr wythnos rhwng dydd Llun 5 Hydref a dydd Gwener 16 Hydref.
Ond bydd y ffordd yn cael ei hailagor o nos Wener 9 Hydref tan oriau mân dydd Llun 12 Hydref er mwyn sicrhau mynediad i faes parcio'r traeth drwy gydol y penwythnos.
Bwriedir cwblhau'r gwaith cyn gwyliau hanner tymor.
Mae'r cyngor wedi ymddiheuro am yr aflonyddwch a'r anghyfleustra i drigolion, ymwelwyr a busnesau lleol.
Dyweddod Huw Percy, pennaeth priffyrdd Cyngor Môn: "Rydym yn llwyr werthfawrogi y bydd cau'r ffordd yn achosi aflonyddwch ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra."
"Mae'r gwelliannau hyn i'r system ddraenio yn hanfodol er mwyn cynnal y llwybr pwysig hwn. Fodd bynnag, bydd y ffordd yn ailagor ar y penwythnos (Hydref 10fed/11eg) ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau cyn y gwyliau hanner tymor."
"Bydd ein timau'n gwneud popeth o fewn eu gallu i gwblhau'r gwaith yn unol â'r amserlen ac i ailagor y ffordd fynediad i'r prif faes parcio i ymwelwyr cyn gynted â phosib."
Bydd y ffordd ar gael i'r gwasanethau brys drwy gydol y gwaith, sydd wedi'i gydlynu'n agos â Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gyfrifol am reoli Coedwig Niwbwrch, i helpu i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosib.
Bydd arwyddion hefyd yn cael eu gosod cyn cau'r ffordd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Ieuan Williams, sy'n dal y portffolio priffyrdd: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y llwybr hwn i drigolion, busnesau lleol ac ymwelwyr."
"Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i ddiogelu'r ffordd ar gyfer y dyfodol ac rydym yn diolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bo'r gwaith gwella hollbwysig hwn yn mynd rhagddo."
Bydd maes parcio Coedwig Niwbwrch a Llanddwyn yn dal i fod ar agor tra bod mannau parcio amgen ar gael ym Mhen Cob, Llyn Parc Mawr a Llyn Rhos Ddu.
Mae'r cyngor yn nodi bod defnyddio meysydd parcio eraill yn golygu taith gerdded hirach i'r traeth, ac anogir ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu mwy o amser i gyrraedd y traeth.


Bangor: chwilio’n parhau ar ôl darganfod corff babi
Caergybi: arestio dyn wedi ymosodiad honedig
Darganfod gwyfyn prin ym Mhen Llŷn
Bangor: apêl uniongyrchol yn dilyn marwolaeth babi
Cwpan Cymru: Caernarfon yn wynebu Y Fflint eto