Darganfod gwyfyn prin ym Mhen Llŷn

Wednesday, 30 September 2026 15:51

By Ystafell Newyddion MônFM

CNC

Mae rhywogaeth brin o wyfyn wedi'i darganfod ar Benrhyn Llŷn am y tro cyntaf erioed.

Cafwyd hyd i Crambus silvella (Bog Grass Moth) yng ngwarchodfa natur Cors Geirch rhwng Nefyn a Pwllheli yn ystod arolwg o infertebratau gan gadwraethwyr.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod y darganfyddiad yn arwydd o'r cynefin ffyniannus sy'n cael ei gynnal yno.

Gosodwyd tri thrap gwyfynod, a thros un noson casglwyd 446 o wyfynod, yn cynnwys 91 rhywogaeth wahanol.

Roedd 19 o’r rhain yn wyfynod Crambus silvella, y tro cyntaf erioed i’r rhywogaeth gael ei chofnodi yn yr ardal.

Meddai Steve Palin a Charles Aron, arbenigwyr gwyfynod lleol a ganfu’r gwyfyn: "Y peth gwych am ddal gwyfynod yw eich bod chi byth yn gwybod beth sy’n mynd i droi i fyny! Ond roedd dod o hyd i’r gwyfyn yma, sy’n un arbennig o brin, yn syrpreis arbennig."

"Mae’n ychwanegiad sylweddol at ein gwybodaeth am bryfed asgellog yr ardal ac yn dangos gwerth targedu gwaith cofnodi gwyfynod yn y mathau arbenigol hyn o gynefin cors galchog, lle mae’n amlwg bod llawer i’w ddarganfod o hyd."

Mae sawl rhywogaeth brin ar y safle yn dibynnu ar ddŵr glaw alcalïaidd y gors i oroesi, gan gynnwys y pryf cannwyll Idiocera sexguttata a’r chwilen Chlaenius tristis.

Mae’r math hwn o gynefin hefyd yn caniatáu i hesg gwlyb dyfu, sef unig ffynhonnell fwyd larfa’r gwyfyn Crambus silvella.

Ychwanegodd Clare Sampson, rheolwr prosiect ar gyfer RSPB Cymru: "Ynghyd â staff Cyfoeth Naturiol Cymru, contractwyr lleol a gwirfoddolwyr, mae Natur am Byth! wedi bod yn gweithio ar y llifolchdiroedd gwlyb calchog sy’n gartref i’r infertebratau prin hyn er mwyn eu gwneud yn fwy agored."

"Er bod llawer o gorsydd calchog wedi dioddef dros yr haf poeth a sych, fe ddaethom o hyd i niferoedd iach o’r chwilen Chlaenius tristis a’r pryf cannwyll Idiocera sexguttata yng Nghors Geirch eleni, ond at hynny, fe wnaethon ni ddarganfod y rhywogaeth ryfeddol a phrin hon o wyfyn."

"Mae o leiaf 80 y cant o fawndiroedd y DU wedi’u colli neu eu difrodi, sy’n golygu bod rhywogaethau prin sy’n dibynnu ar gynefinoedd penodol fel hyn yn ei chael hi’n anodd goroesi."

"Ond o’u rheoli’n ofalus, gall y corsydd calchog pwysig hyn gael eu cynnal fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ddal ati i wneud darganfyddiadau newydd."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'