Mae dyn o Fangor wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o droseddau gam-drin domestig.
Cyhuddwyd Jamie Temple, 28 oed ac o Stryd Clarence, o ymddygiad rheolaethol a gorfodol, ac am fygwth person gydag arf miniog a mygu bwriadol.
Cafodd Temple ei gadw yn y ddalfa am dros fis gan ynadon yn Llandudno ddydd Mercher.
Bydd yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Llun 18 Mai.


Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr