Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o ladrad a herwgipio mewn tŷ ym Mangor.
Cafodd tri o bobl eu harestio yn dilyn aflonyddwch mewn eiddo yn ardal Hirael tua 2yb bore Mercher (20 Mai).
Mae Gwynfor Jones, heb gyferiad sefydlog ond o ardal Ynys Môn, hefyd wedi ei gyhuddo o meddu ar arf ymosodol, creu difrod troseddol a rhwystro’r swyddogion heddlu.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa am fis gan Lys Ynadon Llandudno ddydd Gwener a bydd yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun 22 Mehefin.
Dyweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae dau o'r unigolion wedi cael mechnïaeth efo amodau wrth i ymholiadau barhau."


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir