Bangor: cynlluniau i greu gofod awyr agored

Friday, 14 August 2026 15:14

By Ystafell Newyddion MônFM

Argraff yr artist (Cyngor Gwynedd)

Bydd gofod newydd ar gyfer digwyddiadau awyr agored yn cael ei adeiladu ger amgueddfa Storiel ym Mangor,

Yr wythnos hon, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd £654,000 yn mynd tuag at welliannau i'r parth cyhoeddus yng nghanol y ddinas.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i drawsnewid y mannau cyhoeddus o amgylch canolfan Storiel, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed eleni.

Bydd y gwelliannau yn cynnwys ardal eistedd newydd ar ffurf amffitheatr, tirlunio, creu mynediad mwy hygyrch, seddi caffi awyr agored wedi'u huwchraddio a goleuadau newydd i gynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

Cyhoeddwyd y cyllid yn ystod ymweliad â'r ddinas gan y gweinidog llywodraeth leol Sian Gwenllian ddydd Mawrth.

Dyweddod arweinydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys: "Mae hyn yn newyddion gwych i Fangor, i bobl leol ac i ymwelwyr i'r ddinas. Rydym wrth ein bodd o glywed y cyhoeddiad ac yn croesawu'r buddsoddiad o £654,000."

"Roeddem yn falch iawn o groesawu'r Gweinidog i Fangor ac o gael y cyfle i egluro'r cynlluniau cyffroes ar gyfer yr ardal tu allan."

Mae prosiect Cysylltu Storiel yn rhan o gynlluniau ehangach i greu "coridor diwylliannol cryfach" drwy Fangor, gan gysylltu Storiel â chanolfan Pontio, yr eglwys gadeiriol a llyfrgell y ddinas.

Y bwriad yw cwblhau'r gwaith adeiladu erbyn y gwanwyn flwyddyn nesaf.

Mae cefnogaeth wedi'i sicrhau o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU a hefyd o gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod dylunio.

Ychwanegood y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros yr economi: "Rydym wrth ein boddau gyda'r cyhoeddiad, ac roeddem yn falch iawn o groesawu'r Gweinidog i Fangor i siarad efo hi am y cynlluniau cyffrous."

"Mae gan Fangor gyfleusterau rhagorol a bydd prosiect Cysylltu Storiel yn cryfhau'r cysylltiadau rhyngddynt drwy greu gofod awyr agored o ansawdd uchel sy'n cefnogi digwyddiadau, diwylliant a gweithgareddau cymunedol."

"Mae'r buddsoddiad hwn yn gam pwysig arall yn adfywiad canol dinas Bangor ac edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn symud yn ei flaen dros y misoedd nesaf."

Daw'r cyhoeddiad yn yr un wythnos y bu Lywodraeth Cymru gyhoeddi sefydlu Tasglu Stryd Fawr newydd i hyrwyddo dyfodol canol trefi.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Nia Davies

    6:00pm - 8:00pm

    Sgwrs a cherddoriaeth hamddenol yng nghwmni Nia ar nos Sul.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'