Mae'r heddlu ym Mangor yn ceisio sefydlu'r amgylchiadau yn dilyn digwyddiad honedig ger safle bws.
Mae ditectifs yn apelio am wybodaeth neu unrhyw fideo camera cerbyd yn dilyn adroddiadau am aflonyddwch ger safle Nant y Mount ym Mhenrhosgarnedd rhwng 9yh a 9.15yh nos Fawrth diwethaf (8 Medi).
Dyweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "‘Da ni’n cydnabod bod yr apêl hon yn gryno, ond ar hyn o bryd ‘da ni’n gweithio efo gwybodaeth gyfyngedig. Mae swyddogion yn parhau i gynnal ymholiadau ynghyd â’r apêl hon."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddefnyddio'r rhif cyfiernod 2600741151.


Porthmadog: carchar i leidr ar ôl dwyn copr
Rhybudd yn dilyn lladradau byrnau gwair
Doreen Morris: rhyddhau pedwar dan ymchwiliad
Prif Weinidog yn cofio ei fam
Cyngor i fabwysiadu cynllun atal hunanladdiad