Mae Prif Weinidog Cymru wedi siarad yn agored am ei fam mewn rhaglen ddogfen newydd.
Bu farw Gwyneth Morus Jones ym mis Rhagfyr 2012, sawl mis cyn i Rhun ap Iorwerth gael ei ethol i'r Senedd fel aelod Ynys Môn mewn is-etholiad.
Mae ffilm bry-ar-y-wal ar S4C yn rhoi mewnwelediad unigryw i'w dri mis cyntaf ers ffurfio Llywodraeth Cymru leiafrifol ym Mae Caerdydd.
Dyweddod Rhun "Mi ddoth hi’n thema yn y dyddiau wedi’r etholiad i bobl gofio am y rhai o’dd ddim yma a deud ‘Waw, mi fydden nhw ‘di bod mor falch o weld hyn."
"Mi oedd gen i y person hwnnw hefyd, wrth gwrs, a Mam oedd honno."
Roedd Mrs Morus Jones a’i gŵr Edward Morus Jones yn aelodau gweithgar o Blaid Cymru am flynyddoedd lawer.
“Ma’ meddwl bod y person yna mor bwysig yn fy mywyd i ddim wedi bod yna yn rhywbeth dwi ‘di meddwl lot amdano fo, ond mae hi hefyd yno. Bob dydd."
Mae Awen Iorwerth, chwaer arweinydd Plaid, hefyd yn adlewyrchu ar ddylanwad eu mam.
"O’dd Cymru, y Gymraeg yn bwysig iawn i Mam. O’dd o’n rhan ohoni erioed. Yr Eisteddfod, canfasio dros Blaid Cymru," meddai.
“[Roedd y fuddugoliaeth yn golygu] bod hi ‘di cael rhoid rhan ohoni’i hun drwy Rhun.”
Bydd "Rhun ap Iorwerth: Y Tri Mis Cyntaf", cyd-gynhyrchiad gan Boom Cymru a Zwwm Films ar S4C am 9yh ar nos Iau (10 Medi) ac ar S4C Clic a BBC iPlayer. Mae isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael.


Porthmadog: carchar i leidr ar ôl dwyn copr
Bangor: ymchwiliad i digwyddiadau mewn safle bws
Rhybudd yn dilyn lladradau byrnau gwair
Doreen Morris: rhyddhau pedwar dan ymchwiliad
Cyngor i fabwysiadu cynllun atal hunanladdiad