Bydd cynghorwyr Gwynedd yn trafod cynlluniau i gyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn y dwy flynedd nesaf.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, bydd yn caniatáu i wahanol wasanaethau ac adrannau i gydweithio i helpu'r rhai sydd mewn perygl ac i gefnogi teuluoedd a chymunedau fel cyfrifoldeb a rennir.
Mae dydd Iau yn nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, lle mae cymunedau, sefydliadau a llywodraethau ar draws y byd yn dod at ei gilydd gyda'r un gred fod modd atal hunan-laddiad.
Dyweddod arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys: "Fel cyngor, rydan ni'n ymrwymo i fod yn rhan o'r ymdrech genedlaethol a byd-eang i atal hunanladdiad a hunan-niweidio."
"Yn 2024, bu farw mwy na 15 o bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru oherwydd hunan-laddiad, ac roedd y ffigwr yma yn uwch nag yn 2023. Mae hyn yn ystadegyn difrifol ac rydym yn benderfynol o gydweithio efo'r gymuned a sefydliadau eraill i atal y marwolaethau hyn."
"Mae'n fater cymhleth ac mae nifer o ffactorau yn gysylltiedig efo hunanladdiad, gan gynnwys tlodi, problemau iechyd meddwl a chorfforol, camddefnyddio alcohol a sylweddau ac ati. Dyma pam fod angen i'r lleol weithio gyda'r cenedlaethol er mwyn i'r afael a'r problemau hyn."
Rhai o'r pethau fydd yn deillio o fabwysiadu'r cynllun fydd:
- Codi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant i staff ac aelodau etholedig
- Codi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion a grwpiau cymunedol o'r cymorth sydd ar gael
- Adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd drwy ysgolion i roi cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc
Ychwanegodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, cadeirydd Cyngor Gwynedd: "Mae hunan-niweidio a hunan-laddiad wedi gallu bod yn bwnc tabŵ yn ein cymdeithas dros y cenedlaethau."
"Mae'n hynod bwysig ein bod yn fwy parod i drafod materion fel hyn yn agored ac atgoffa pobl fod cefnogaeth ar gael, dydi pobl ddim ar eu pennau eu hunain. Yn anffodus, mae hyn yn fater sy'n cyffwrdd nifer o deuluoedd a chymunedau."
"Dwi'n falch iawn bydd cabinet y cyngor yn trafod y cynllun gweithredu ychydig ddyddiau ar ôl Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd."
Os ydi yn cael effaith arnoch gan hunanladdiad neu hunan-niweidio, cofiwch fod cymorth ar gael, er enghraifft:
- Y Samariaid – 116 123 – samaritans.org
- Y Gwasanaeth Iechyd – 111 – nhs.uk
- Childline – 0800 1111 – childline.org.uk (at gyfer plant a phobl ifanc o dan 19 oed)


Porthmadog: carchar i leidr ar ôl dwyn copr
Bangor: ymchwiliad i digwyddiadau mewn safle bws
Rhybudd yn dilyn lladradau byrnau gwair
Doreen Morris: rhyddhau pedwar dan ymchwiliad
Prif Weinidog yn cofio ei fam