Mae'r heddlu'n chwilio am gi yn dilyn ymosodiad ar ddefaid ym Modorgan fis diwethaf.
Cafodd tair dafad anafiadau i’w coesau ôl ac mae un arall ar goll yn dilyn digwyddiad mewn caeau ger Llangristiolus.
Digwyddodd rywbryd rhwng 5.30yp a 6yh.ar ddydd Gwener 21 Awst.

Dyweddod SCCH Rhys Evans o uned troseddau cefn gwlad yn Heddlu Gogledd Cymru: "Gofynnwn i unrhyw un a oedd yn cerdded eu ci drwy’r caeau ar y pryd i gysylltu â ni."
"Unwaith eto rydym yn ymbil ar berchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn pan fydd anifeiliaid fferm o gwmpas er mwyn osgoi tarfu arnynt a’u niweidio."
"Os ydy eich ci wedi dianc mewn ardal wledig dylech rhoi gwybod i’r heddlu cyn gynted a phosib fel y gall ffermwyr a thirfeddianwyr gael gwybod."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad, cysylltwch â SCCH Evans ar 101 neu drwy'r sgwrs fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000686983.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr