Mae cwest wedi agor i farwolaeth arbenigwr fforensig mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd.
Bu farw Mark Handford mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ar yr A5025 ym Murwen ger Amlwch ar 27 Mehefin.
Roedd y dyn 58 oed o Llangoed yn gweithio i Heddlu Gogledd Cymru fel casglwr tystiolaeth.
Yn ôl crwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, cafodd nifer o anafiadau yn y gwrthdrawiad.
Cafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.
---
Hefyd ddydd Mercher, agorwyd cwest i farwolaeth hyfforddwr rygbi mewn damwain beic modur ger Beddgelert.
Roedd Philip Doyle o Wexford yn gyn-brif hyfforddwr gyda thimau merched Iwerddon a'r Alban, a enillodd bencampwriaeth y Chwe Gwlad gydag Iwerddon yn 2013.
Bu farw y dyn 61 oed mewn gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur BMW GS rhwng Nantmor a Nant Gwynant ar 25 Mehefin.
Mae ymchwiliadau pellach yn parhau ac mae'r gwrandawiad wedi'i ohirio.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr