Burwen: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad

Saturday, 27 June 2026 17:00

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Burwen, ger Amlwch.

Mae'r A5025 ar gau rhwng Porth Llechog a Chemaes yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng car a beic modur toc wedi hanner dydd prynhawn Sadwrn.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn safle'r digwyddiad ac mae ei deulu wedi cael gwybod, ynghyd â chrwner Gogledd Orllewin Cymru.

Yn ôl Cyngor Ynys Môn, bydd y ffordd yn parhau ar gau am gyfnod sylweddol.

Dyweddod llefarydd: "Rydym wrthi’n gosod arwyddion "gwyriad" ar hyd y B5109 o Llanynghenedl tuag at Bodedern i gyfeiriad Trefor ac ymlaen wedyn i Llannerch-y-medd / Amlwch."

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar dystion - neu unrhyw un sydd â lluniau - i ddod ymlaen.

Dyweddod yr Arolygydd Matt Halstead: "Rwy'n anfon fy nhgydymdeimlad dwysaf at deulu'r dyn ar yr amser hynod o anodd hwn."

"Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd ffordd yr A50235 ym mhentref Burwen toc cyn hanner dydd heddiw ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd â deunydd dash-cam i gysylltu â ni cyn gynted â bo modd."

"Gallai unrhyw wybodaeth fod yn hanfodol i'n hymchwiliad." 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod O101130.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Drivetime with Supertemps

    4:00pm - 6:00pm

    Great music and MônFM's weekly jobs update with Supertemps. Find out more at www.supertemps.co.uk.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'