Mae llanc wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â dau fyrgleriaeth yn ardal Amlwch.
Mae ditectifs yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiadau ar Ffordd Porth Llechog dros nos rhwng dydd Iau 27ain a dydd Gwener 28ain Tachwedd.
Mae dyn 19 oed wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth hefo amodau tra bod yr heddlu’n parhau â’u hymholiadau.
Dyweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "‘Da ni’n parhau apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus neu sydd hefo ffilm yn cwmpasu’r ffyrdd o amgylch Ffordd Porth Llechog i gysylltu hefo ni."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000973080.
Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr